Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Cyhoeddi Ymadawiad y Prif Weithredwr

Cyhoeddodd y Cymdeithas Ddysgedig Cymru heddiw y bydd Martin Pollard, ei Phrif Weithredwr, yn gadael yr elusen ar 3 Rhagfyr 2021. Bydd y Gymdeithas yn dechrau chwilio am Brif Weithredwr newydd. Bydd y Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar ei hamserlen o ddigwyddiadau dros yr hydref, a’r broses flynyddol o ethol ei Chymrodyr a’i medalwyr newydd.

Mae Martin yn gadael i weithio fel Prif Swyddog Gweithredol yn Primary Science Teaching Trust, sy’n hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysgu gwyddoniaeth ledled Prydain.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae’n ddrwg gennym weld Martin yn gadael, ond rydym yn parchu ei benderfyniad i ddychwelyd i weithio o fewn cyd-destun ysgolion.

“Mae Martin wedi arwain y sefydliad yn wych dros y tair blynedd diwethaf. Mae ei waith ar ddatblygu strategol ac ar ein hagenda cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn ogystal â datblygu ein Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Gynnar, wedi ein helpu i ddatblygu.

“Rydym mewn sefyllfa dda i wneud y Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn llais cryfach a mwy uchel ei pharch ym mywyd dinesig Cymru. Hoffem ddymuno’r gorau i Martin yn ei swydd newydd.” 

Dywedodd Martin: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’n Cymrodyr a’n tîm staff gwych, ac rwy’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i arwain y Gymdeithas i gyfeiriadau newydd. Rwyf yn edrych ymlaen at weld sut mae fy olynydd yn datblygu gwaith hanfodol y Gymdeithas i harneisio rhagoriaeth mewn dysgu.”