‘Llwybrau at Heddwch’: llwyddiant ac adnewyddu
Dros y flwyddyn ddiwethaf, am y tro cyntaf, mae ein cynllun grantiau ymchwil llwyddiannus wedi cefnogi prosiectau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth well o faterion penodol sy’n ymwneud â heddwch. Mae’r canlyniadau wedi bod yn ardderchog, gyda’r ffocws ar heddwch yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall.
Cafodd ‘Llwybrau at Heddwch’ ei greu yn 2024, mewn partneriaeth ag Academi Heddwch Cymru, sefydliad heddwch cenedlaethol Cymru. Ychwanegwyd y prosiect at ffrwd gyllido bresennol cynllun grantiau ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Astudiaethau Cymru, y celfyddydau, dyniaethau ac astudiaethau cymdeithasol, ac ymchwil gyrfa cynnar.
O’r chwech ar hugain o brosiectau a dderbyniodd grantiau o hyd at £2000, daeth pedwar trwy’r prosiect ‘Llwybrau at Heddwch’:
| Teitl y Prosiect | Prif Gynigydd | Prif Sefydliad |
|---|---|---|
| Co-developing improved access to psychosocial interventions and social prescribing in the community for people seeking refuge and asylum. | Dr Rabeea’h W Aslam | Prifysgol Caerdydd |
| A Welsh pathway to peace: Storytelling and forced migration: | Dr Gillian McFadyen | Prifysgol Aberystwyth |
| Supporting girls’ everyday politics in Uganda | Dr Rosie Walters | Prifysgol Caerdydd |
| Stories of peace from Myanmar to Wales: place-based storytelling and pedagogic decolonising for displaced youth | Dr Yi Li | Prifysgol Aberystwyth |
Mae’r arian o grantiau’n cael ei ddynodi ar gyfer trefnu gweithdai sy’n arwain at ddatblygu rhwydweithiau neu agendâu ymchwil newydd.
Mae llwyddiant y ffrwd wedi arwain at Academi Heddwch Cymru yn cytuno i ymestyn y ffrwd ‘Llwybrau at Heddwch’ am flwyddyn arall, gyda cheisiadau’n ailagor yn yr hydref.
Meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero: “Rydyn ni’n falch dros ben ein bod ni’n gallu cynnig grantiau ‘Llwybrau at Heddwch’ am flwyddyn arall.“
Roedd y prosiectau y gwnaethom eu cefnogi yn y flwyddyn gyntaf i gyd yn bwysig, ac yn ymateb i’r amseroedd heriol rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
“Maen nhw hefyd yn adlewyrchu ymwybyddiaeth o sut mae ‘heddwch’ yn ymwneud â mwy na dim ond absenoldeb rhyfel.
‘Mae’r bartneriaeth gydag Academi Heddwch Cymru yn enghraifft o sut rydym mewn sefyllfa dda i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo eu hamcanion a datblygu ein gwaith i wneud Cymru yn le gwych i ymchwilio a bod yn ymchwilydd ynddi.’ Cefnogodd un o’r grantiau gweithdy brosiect adrodd straeon digidol a ddaeth ag academyddion, eiriolwyr ffoaduriaid Cymru, gwasanaethau iechyd a sefydliadau diwylliannol at ei gilydd i ymateb yn greadigol i’r cwestiwn: ‘Beth mae heddwch yng Nghymru yn ei olygu i chi?’ Dan arweiniad Dr Gillian McFadyen a Dr Arddun Arwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r straeon digidol cyntaf o’r prosiect yn cael eu cynnwys yn yr erthygl hon. Bydd y gweithiau creadigol hyn yn rhan o arddangosfa deithiol genedlaethol gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru ym mis Rhagfyr.