Partneriaeth gydag Academi Heddwch yn rhoi ffocws rhyngwladol newydd i gynllun grantiau
Prin y gallai ymchwil ar heddwch a’r llwybrau at heddwch fod yn fwy angenrheidiol nag ar hyn o bryd. Dyna pam mae partneriaeth rhwng Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Academi Heddwch i gefnogi prosiectau ymchwil sy’n archwilio materion sy’n ymwneud â heddwch yn arbennig o amserol.
Bydd cefnogaeth Academi Heddwch i thema newydd fel rhan o’n Cynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil llwyddiannus, yn golygu bod hyd at £2000 ar gael ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys partneriaid rhyngwladol sy’n gweithio o dan y thema eang ‘Llwybrau at Heddwch’.
“Mae Academi Heddwch Cymru yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn y fenter newydd hon. Mae’r heriau ar gyfer cymdeithas heddychlon yn parhau i fod yn ddifrifol – boed o wrthdaro arfog, neu o faterion aflonyddgar fel newid hinsawdd, Deallusrwydd Artiffisial a chyfryngau cymdeithasol. Gobeithiwn drwy’r cynllun hwn sbarduno trafodaeth a meddwl newydd, ysgogi dawn yng Nghymru a thu hwnt, a dechrau mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu fel cymdeithas.”
Professor Colin McInnes FLSW, Arweinydd Ymchwil Academaidd, Academi Heddwch Cymru
Mae’r ffocws ar bartneriaeth ryngwladol yn cael ei bwysleisio yn rownd y cynllun grantiau eleni. Mae’r cyllid ychwanegol sy’n dod yn sgil hyn yn dangos ein diddordeb mewn annog ymchwilwyr o Gymru i adeiladu rhwydweithiau y tu allan i’r wlad.
Mae ‘Llwybrau at Heddwch’ yn ychwanegu at y ffrydiau ariannu sy’n bodoli eisoes, sy’n targedu Astudiaethau Cymru, y celfyddydau, y dyniaethau ac astudiaethau cymdeithasol, ac ymchwil gyrfa gynnar. Mae 35 o brosiectau wedi cael eu cefnogi drwy’r cynllun grantiau ers iddo gael ei lansio yn 2022.
“Y llynedd, buom yn gweithio gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar sesiwn drafod rydd i ymchwilwyr gyrfa gynnar ar y thema ‘Llwybrau tuag at Heddwch’. Cyfrannodd y digwyddiad at feithrin rhwydwaith o ymchwilwyr heddwch yng Nghymru. Eleni, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar ei Chynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil er mwyn cynnal a pharhau â’r trafodaethau hollbwysig ar heddwch.”
Dr Bethan Siân Jones, Rheolwr Datblygu Prosiect Academi Heddwch, Academi Heddwch Cymru
“Mae’r gwaith gydag Academi Heddwch yn arwyddocaol o ran cynnig model ar gyfer sut y gallwn weithio gyda’r trydydd sector a sefydliadau partner eraill ar ddiddordebau a rennir, yn enwedig mewn perthnasedd â Chymru,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr.
“Buasem yn croesawu petasai pobl eraill sy’n gweld beth rydym yn ei wneud gyda’r Academi Heddwch, ac a hoffai weld sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â’u hamcanion, yn cysylltu â ni.
“Gallai hyn gynnwys ymchwilwyr sy’n gweithio y tu allan i’r byd academaidd ac a allai ddefnyddio’r cyfle cyllido mae ein grantiau’n ei ddarparu i gynyddu eu gallu i ymchwilio.”