Newyddion y Cymrodyr: Penodiadau, Cerddi a’r Dyfodol

Mae’r Athro Geraint Lewis wedi bod yn rhan o’r gwaith o gyfieithu gwaith clasurol o ffuglen wyddonol Gymraeg: Wythnos yng Nghymru Fydd (A Week in Future Wales). Mae’r llyfr, sydd newydd gael ei gyhoeddi, yn trafod teithio drwy amser, ac yn archwilio sut allai Cymru edrych yn y flwyddyn 2033.

Mae casgliad diweddaraf o gerddi’r Athro Derec Llwyd Morgan, sef Bardd Cwsg Arall, newydd gael ei gyhoeddi hefyd gan Gwasg Carreg Gwalch.

Gan barhau â’r thema lenyddol, mae Gŵyl Ddigidol y Gelli yn ôl, a bydd nifer o’n Cymrodyr yn cymryd rhan: Bydd yr Athro Mererid Hopwoodyn trafod sut mae beirdd wedi dychmygu iaith (12pm, 30 Mai), tra bydd yr Athro Daniel Williams yn ymuno â Leanne Woods a Michael Sheen i siarad am fywyd, gwaith a pherthnasedd parhaus Raymond Williams (1pm, 30 Mai).

Llongyfarchiadau i’r Athro Karen Holfrod, sydd wedi cael ei benodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Cranfield. Bydd yn dechrau ei swydd newydd ar 1 Awst 2021.

Llongyfarchiadau hefyd, i’r Athro Graham Davies, sydd wedi cael ei benodi’n Athro Emeritws Peirianneg ym Mhrifysgol Birmingham, i ychwanegu at ei statws Athro Emeritws Peirianneg ym Mhrifysgol New South Wales, Awstralia.