‘Revolutionary Friendships: Richard Price, Benjamin Franklin, Thomas Jefferson, and the Cause of Independence’ – Darlith

Bydd darlith yn Senedd Cymru ar 28 Chwefror, sydd yn cael ei threfnu ar y cyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn dathlu bywyd Richard Price, un o feddylwyr mwyaf dylanwadol Cymru.  

Mae’r ddarlith gan Dr Patrick Spero, Llyfrgellydd a Chyfarwyddwr Cymdeithas Athronyddol America (APS), yn rhan o’r dathliadau 300 mlwyddiant ers geni Price.  

Bydd darlith Spero, ‘Revolutionary Friendships: Richard Price, Benjamin Franklin, Thomas Jefferson, and the Cause of Independence’, yn archwilio rôl Price mewn gwleidyddiaeth radical ar ddiwedd y 18fed Ganrif.  

“Rwy’n edrych ymlaen yn benodol at drafod Richard Price,” meddai Dr. Spero. “Roedd Price yn ffigwr canolog yn oes y chwildroadau, ac mae ei gyfeillgarwch gyda Franklin a Jefferson yn datgelu agweddau newydd a phwysig ar yr athroniaeth wleidyddol a weddnewidiodd llywodraethau Ewrop a’r Unol Daleithiau.”

Fis diwethaf, cyflwynodd yr Athro Iwan Morus FLSW, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Athro Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddarlith ei hun, yn yr APS yn Philadelphia. Roedd ‘Electrifying Thinkers’ yn archwilio sut y cymerodd perthynas Price â Benjamin Franklin eu diddordeb cyffredin mewn gwyddoniaeth fel y man cychwyn dros ddadlau y gallai pŵer rheswm helpu i wella’r cyflwr dynol. 

“Roedd darlith yr Athro Morus yn Philadelphia yn llwyddiant ysgubol”, meddai’r Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.  

“Nawr, rydym yn falch iawn o helpu i drefnu ymweliad Patrick Spero i fan hyn.  

“Bydd ei ddarlith yn cryfhau ein cysylltiadau â Chymdeithas Athronyddol America, ac yn ychwanegu at ddathliadau’r meddyliwr rhyfeddol hwnnw o Gymru, Richard Price.”  

Mae’r ddarlith yn y Senedd yn cael ei threfnu gyda Price 300, sydd yn trefnu cyfres o ddathliadau pen-blwydd i nodi pen-blwydd Price. 


Agenda

11:00 – 11:20: Cyrraeddiadau

11:25 – 12:25: Darlith

12:30 – 13:00: Cinio

13:00 – 13:15: ‘Price of Change’ – Darlleniad

13:15 – 14:00: Trafodaeth ford gron