Rydym yn gwneud ychydig o newidiadau i’n medalau blynyddol

Fel arfer, dyma’r adeg o’r flwyddyn lle byddwn yn dechrau chwilio am dderbynwyr ein medalau blynyddol.
Mae eleni’n mynd i fod yn wahanol…
Am y tro cyntaf ers peth amser, rydym yn bwriadu cyflwyno ychydig o fedalau newydd i’n rhestr. Mae’r broses wrth wraidd hyn wedi ei harwain gan Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig Cymru sydd ar ein gweithgor medalau. Maent wedi cynnal archwiliad manwl o’r medalau yr ydym yn eu dyfarnu ar hyn o bryd ac wedi cynnig argymhellion ar y meysydd sy’n haeddu cydnabyddiaeth drwy gael medal yn neilltuol ar eu cyfer. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, felly rydym wedi penderfynu gohirio medalau eleni.
Yn hytrach, am fod y Gymdeithas yn troi’n pymtheg eleni, rydym yn cynllunio digwyddiad arbennig fel rhan o’n dathliadau.