Rhannwch eich ymchwil: croesewir cynigion ar gyfer sgyrsiau fflach a chyflwyniad poster Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar

Y cyfle i rannu ymchwil gyda chyd-ymchwilwyr gyrfa gynnar yw un o nodweddion allweddol ein Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar blynyddol, a gynhelir eleni yn Aberystwyth, 29-30 Mehefin.

Erbyn hyn, gall Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar gyflwyno crynodeb ar gyfer y sgyrsiau fflach a’r cyflwyniadau poster sy’n chwarae rôl allweddol o fewn y Colocwiwm.

Dylai cynigion gyd-fynd ag un o saith nod llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, neu 17 nod datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, os yw eich ymchwil yn cael ei chynnal y tu allan i Gymru.

Y dyddiad olaf i gyflwyno cynigion yw 20 Mawrth 2026.

Mae’r Colocwiwm, sydd bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, yn dwyn ynghyd ymchwilwyr o bob cwr o Gymru a phob disgyblaeth i rwydweithio, datblygu’n broffesiynol, a chydweithio.

Mae’n cynnig lleoliad rhyngddisgyblaethol a chefnogol i rannu syniadau ymchwil, cael adborth cymheiriaid, archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithrediad yn y dyfodol, a datblygu sgiliau sy’n cefnogi gyrfaoedd ymchwil. Bydd cymorth teithio a llety ar gael i ymchwilwyr sy’n mynychu o ymhellach i ffwrdd.

yn ôl i'r brig