Tair Academi yn galw am gyswllt rhwng Llywodraeth y DU a’r cenhedloedd datganoledig
Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymdeithas Frenhinol Caeredin ac Academi Frenhinol Iwerddon yw academïau cenedlaethol Cymru, yr Alban ac ynys Iwerddon yn eu tro.
Mae’r tair cymdeithas, sy’n cynrychioli ymchwil, dysg a gwybodaeth ddefnyddiol, wedi dod at ei gilydd i fynegi eu diddordeb cyffredin mewn llythyr at yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Fusnes Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a thros Gymunedau Tai a Llywodraeth Leol. Mae’r llythyr yn tanlinellu’r buddiannau uniongyrchol sydd wedi deillio o’r Undeb Ewropeaidd i Addysg Uwch ac i ymchwil ac arloesi yn y Deyrnas Unedig a’r angen i sicrhau y bydd perthynas y Deyrnas Unedig â’r UE yn y dyfodol yn hwyluso ac yn cynnal y buddiannau a’r profiadau cadarnhaol hyn.
Mae aelodaeth o’r UE hefyd wedi bod yn ffynhonnell bwysig o gyllid i addysg uwch, a phwysleisiwn y bydd sicrhau ffynonellau eraill o gyllid yn hanfodol i’r prifysgolion ac i’r cenhedloedd a gynrychiolwn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd Cronfa Ffyniant Cyffredin arfaethedig y DU i sicrhau llewyrch drwy’r DU gyfan. Wrth iddi gael ei rhoi ar waith credwn y dylid parchu’r setliad datganoli ac, er mwyn sicrhau cynnydd wrth ymdrin ag anghydraddoldeb, na ddylai fod yn werth llai na chyllid Rhanbarthol a Chymdeithasol cyfredol yr UE.
Fel academïau cenedlaethol rydym yn galw am ymgysylltu ystyrlon rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar bolisi a blaenoriaethau ymchwil ac arloesi ar draws y DU. Rydym yn galw am drefniadau cryfach gydag Ymchwil ac Arloesi’r DU fydd yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion, blaenoriaethau a chyfraniadau’r cenhedloedd datganoledig.
Mae’r tair academi wedi gofyn am gyfarfod gyda’r Ysgrifenyddion Gwladol i drafod y materion hyn.