Cyfle i Ymchwilwyr Ddatblygu Sgiliau Arwain

Rhwng 4 Ionawr a 7 Mawrth, bydd cyfle i chi wneud cais am le ar Raglen Crwsibl Cymru, rhaglen datblygiad proffesiynol a sgiliau arwain uchel ei pharch ar gyfer arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.

Dyma’r chweched flwyddyn yn olynol i’r rhaglen gael ei chynnal, ac mae’n cefnogi arloesedd a ysbrydolir gan ymchwil a chydweithio rhyngddisgyblaethol yng Nghymru.  Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael gwybod:

– sut mae ymchwilwyr eraill sydd ar ddechrau eu gyrfa neu ar ganol eu gyrfa mewn disgyblaethau eraill yn mynd i’r afael â materion tebyg;

– sut gallant drosglwyddo eu gwybodaeth i’r byd cyhoeddus er mwyn cael effaith;

– pa sgiliau ac agweddau sy’n debygol o wneud eu gwaith ymchwil yn fwy arloesol;

– sut gall meddwl yn greadigol wneud gwahaniaeth i’w gwaith a’u gyrfa.

 Ariennir Rhaglen Crwsibl Cymru gan gonsortiwm o brifysgolion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a chefnogir y rhaglen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n dwyn ynghyd 30 o ddarpar ymchwilwyr i drafod sut gallant weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau ymchwil presennol sy’n wynebu Cymru.  Caiff lleoedd eu dyrannu ar ôl proses ddethol gystadleuol, a bydd y sawl sy’n llwyddiannus yn mynd i dri gweithdy preswyl dwys ledled Cymru ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf 2016.

Mae ar ymgeiswyr angen rhwng tair a naw mlynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol (neu gyfwerth), yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth.  Rhaid iddynt fod yn gweithio yng Nghymru, naill ai mewn sefydliad addysg uwch, neu ym maes ymchwil a datblygu mewn busnes/diwydiant, neu yn y sector cyhoeddus/trydydd sector.  Mae gennym arian i noddi dau ymgeisydd llwyddiannus sy’n dod o’r tu allan i Addysg Uwch yn llawn.

Ewch i’r gwefan i gael rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais: www.welshcrucible.org.uk neu cysylltwch â : welshcrucible@caerdydd.ac.uk.  Dilynwch @welshcrucible i gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy Twitter.