Croeso i’n Cymrodyr newydd: mae gan Gymru y talent i lwyddo
Mae’r cyhoeddiad heddiw am 44 o Gymrodyr newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gyfle i ddathlu amrywiaeth ymchwil, arloesedd, arweinyddiaeth a chreadigrwydd Cymru.
Mae dros hanner (52%) o’n Cymrodyr newydd yn fenywod. Rydym yn gweithio’n weithredol tuag at greu Cymrodoriaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ac rydym yn hapus dros ben i gyrraedd y garreg filltir o ethol y gyfran uchaf o fenywod yn ein hanes.
Fel bob amser, mae ein Cymrodyr newydd yn dod o bob maes o’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau ac eleni, maen nhw’n adlewyrchu pwysigrwydd bywyd diwylliannol bywiog i gymdeithas Cymru. Mae’r cerddorion yr Athro Helena Gaunt, Dr Iwan Llewelyn-Jones a’r Athro Iain Quinn yn cyfuno perfformio gyda rolau arweinyddiaeth a dysg, mae Chris Catling yn brif weithredwr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac mae cerfluniau ffiguraidd Claire Curneen yn cael eu casglu a’u harddangos ar draws y byd.
Mae enw da Cymru am wneud gwaith pwysig ar yr hinsawdd ac iechyd yn cael ei adlewyrchu hefyd yn ein Cymrodyr newydd. Mae yr Athro Simon Creer yn defnyddio technegau moleciwlaidd i asesu bioamrywiaeth ar draws biomau, tra bod yr Athro Sarah Davies yn ymchwilio i effaith eithafion tywydd ar ardaloedd arfordirol a threftadaeth, ac mae Dr Emma McKinley, sy’n arweinydd academaidd Severn Estuary Partnership, yn defnyddio ei hymchwil i gefnogi edrych ar ôl y moroedd yn well.
Mae cryfderau nodedig hefyd yn y maes peirianneg, yn enwedig wrth ddefnyddio AI. Mae’r Athro Cinzia Giannetti wedi gwneud gwaith arloesol ar ddefnyddio AI yn y maes gweithgynhyrchu, tra bod yr Athro Yacine Rezgui wedi bod y tu ôl i’r cwmni o’r brifysgol, Optimise AI, sy’n gwella rheoli ynni a charbon mewn adeiladau annomestig.
Gallwch ddarllen crynodeb cryno o’n holl Gymrodyr newydd yma.
“Mae croesawu ein Cymrodyr newydd i’r Gymdeithas bob amser yn un o brif uchafbwyntiau blwyddyn y Gymdeithas,” meddai Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
“Hoffwn eu llongyfarch nhw ar y gydnabyddiaeth hon o ragoriaeth a phwysigrwydd eu gwaith a’u cyfraniadau i fywyd yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio eu profiad a’u gwybodaeth yn ein gwaith ar bolisi a datblygiad ymchwilwyr.
“Rwyf yn gyffrous dros ben hefyd bod ein gwaith ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn dechrau gweld y Gymrodoriaeth yn cynnwys nifer mwy o fenywod. Mewn tair allan o’r pum mlynedd diwethaf, mae menywod wedi ffurfio bron neu ychydig dros 50% o’r Cymrodyr newydd.
“Mae hyn wedi bod yn ganlyniad ein hymdrechion i gynnwys ein hymrwymiad mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar bob cam, i wneud y broses enwebu’n fwy hygyrch, ac i gynnal cyfres o ddigwyddiadau sydd yn benodol yn targedu menywod academaidd ac arweinwyr dinesig a allai fod â diddordeb mewn ymuno â’r Gymdeithas.”