Penodiadau a Chyhoeddiadau: Newyddion y Cymrodyr
4 Awst, 2022
- Mae’r Athro Kamila Hawthorne wedi cael ei ethol yn Gadeirydd nesaf Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.
- Cyflwynwyd Darlith Goffa R. Tudur Jones a Pennar Davies (dan nawdd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg) ar 15 Mehefin 2022 gan yr Athro E. Wyn James. Y teitl oedd ‘Ieuan Gwynedd: Arwr Cenedl’. Mae recordiad (yn Gymraeg) ar gael yma.
- Mae’r Athro Javier Bonet wedi dod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Dulliau Rhifiadol mewn Peirianneg (CIMNE) yn Barcelona.
- Mae’r Athro Charlotte Williams wedi cael ei gwneud yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Bangor.