Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Eisteddfod 2026

Bydd gennym bresenoldeb cryf yn yr Eisteddfod yGarreg Las eleni. Dyma’r digwyddiadau rydym yn eu rhedeg yn ogystal â’r digwyddiadau y mae rhai o’n Cymrodorion yn cymryd rhan ynddynt.


Dydd Sul 2 Awst

14:00, ‘“O! am aros yn ei gariad”: Cofio Ann Griffiths.’ | Pabell y Cymdeithasau 1

Cyflwyniad gan yr Athro E. Wyn James i fywyd a gwaith yr emynyddes enwog Ann Griffiths, i nodi 250 mlwyddiant ei geni. Dan nawdd Gwasg Bryntirion a Mudiad Efengylaidd Cymru. Croeso cynnes i bawb.


Dydd Mawrth 4 Awst

15:30, Darlith Flynyddol Undeb Cymru a’r Byd gan yr Athro E. Wyn James | Pabell y Cymdeithasau 2

‘“Y byd newydd, ym mha un y preswylia cyfiawnder”?: Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd.’ Croeso cynnes i bawb.


Dydd Iau 6 Awst

11:30, Darlith yr Eisteddfod CDdC 20026: ‘Edrych yn ôl ac i’r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd – Yr Athro Siwan Davies | Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Gan dynnu ar ei harbenigedd fel daearyddwr ffisegol sy’n astudio newidiadau cyflym yn yr hinsawdd yn hanes y Ddaear, bydd yr Athro Siwan Davies yn dangos sut mae tystiolaeth o newidiadau hinsawdd yn y gorffennol yn ein helpu ni i ddeall graddfa a chyflymder y newid sy’n digwydd heddiw.


11:30, Darlith Flynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Prifysgol Caerdydd, gan yr Athrawon E. Wyn James a Bill Jones | Pabell y Cymdeithasau 2

‘Ar daith yng Ngogledd America: llwybrau bywyd Francis Lewis (1713–1802) a William Daniel Davies (1838–1900).’ Croeso cynnes i bawb.


15:30, Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud | Pabell y Cymdeithasau 2

Mae’r gystadleuaeth yn herio ymchwilwyr i esbonio eu hymchwil i’r cyhoedd yn Gymraeg mewn llai na thri munud, gan ddefnyddio dim ond un

yn ôl i'r brig