Sicrhau dyfodol ymchwil Cymru: galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arbenigedd y Gymdeithas Ddysgedig
Mae’r Fonesig Elan Closs Stephens, Llywydd newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn dadlau bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ag erydiad sylfaen ymchwil Cymru a bod ganddi adnodd pwerus wrth law i gefnogi sef ehangder yr arbenigedd o fewn y Gymdeithas Ddysgedig.
Yn fy swyddogaeth fel Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, hoffwn ddatgan cefnogaeth y Gymdeithas i ddatganiadau diweddar Llywydd yr Academi Brydeinig, yr Athro Susan J Smith a Chadeirydd Prifysgolion Cymru, yr Is-Ganghellor Athro Elwen Evans.
Un nod yn unig sydd i holl weithgaredd Cymdeithas Ddysgedig Cymru sef sicrhau bod Cymru – yn wyddonol, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol – yn ffyniannus, yn gynaliadwy, yn egnïol ac yn uchelgeisiol. Mae Addysg Uwch ac Ymchwil nid yn unig yn cyfoethogi’r unigolyn ond yn cyfoethogi cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Serch hynny, gorfodir sefydliadau Cymru i leihau ystod eu gweithgaredd oherwydd pwysau ariannol, ar yr union adeg pan fo’r Gymru fodern angen cymdeithas fwy ddysgedig, yn llawn cywreinrwydd a chreadigrwydd. Bellach cawsom Lywodraeth newydd sydd yn addo cychwyn o’r newydd. Geilw’r Gymdeithas ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y sector fel mater o frys, ac i gydweithio i’r graddau y mae’n bosibl ac ymarferol gyda Llywodraeth y DU mewn materion sy’n croesi ffiniau ac sydd tu hwnt i gylch gorchwyl Llywodraeth ddatganoledig.
Atebodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru y galw gan y Lywodraeth flaenorol am dystiolaeth ar Addysg Drydyddol yng Nghymru. Yn unol â datganiad yr Academi Brydeinig, pwysleisia ein tystiolaeth y budd a ddaw o Dysg, Ymchwil a Menter yn hytrach na materion sefydliadau unigol. Mae Addysg Uwch ac Ymchwil wedi eu gwanhau yn arw ym mhob cwr o Gymru ac ar draws pob disgyblaeth, ond yn arbennig felly yn y Dyniaethau. Pen draw yr erydu hwn ar seiliau ein dysg, yng Nghymru fydd gwanhau ein gallu i gystadlu fel cenedl. Bydd yn effeithio ar ein gallu i ddenu myfyrwyr a’n gallu i ddenu ymchwilwyr ysbrydoledig sydd yn angenrheidiol i dŵf economaidd ac i ddarganfyddiadau ym maes iechyd a gwellianau cymdeithasol. Gobaith y Gymdeithas yw y bydd pa bynnag Gomisiwn neu Banel a sefydlir yn edrych ar y sector o’r newydd yn drylwyr, gyda dychymyg a thystiolaeth gadarn ac mewn amser cymharol fyr.
Yn fy rôl fel Llywydd, ysgrifennais esioes at bob Aelod Cabinet o’r Llywodraeth i gynnig iddynt yr ystod o arbenigedd sydd gan y Gymdeithas, fel adnodd i’w hystyriaethau ar bolisi cyhoeddus. Y mae gan y Gymdeithas tros 700 o Gymrodyr, arweinwyr yn eu meysydd mewn Prifysgolion, cyrff cyhoeddus a diwylliannol a diwydiant,a’u bwriad yw cyfrannu at dŵf Cymru.
Rwyf yn galw ar ein Llywdoraeth newydd i werthfawrogi yr adnodd sydd ar gael iddynt yn y Gymdeithas Ddysgedig, sef Academi Genedlaethol Cymru, ac i ddefnyddio’r arbenigedd i wella Cymru – y gym gyfoes a chenedlaethau’r dyfodol.