Y Gymdeithas yn ychwanegu ei llais at ddatganiad ar ryddid academaidd yn yr Unol Daleithiau
Mae pryder ynghylch sut y gallai rheolau arfaethedig llywodraeth yr Unol Daleithiau gyfyngu ar bartneriaethau ymchwil rhyngwladol, wedi arwain at ymateb cryf gan ALLEA, Ffederasiwn Academïau Gwyddorau a Dyniaethau Ewrop
Mae’r datganiad, yr ydym wedi’i lofnodi, yn beirniadu’n gryf cynigion gan Swyddfa Rheoli a Chyllideb yr Unol Daleithiau sydd yn gwneud newidiadau mawr i’r system grantiau ffederal
Byddai’r newidiadau hyn yn cyfyngu ar gydweithio gyda sefydliadau sydd yn cael eu categoreiddio’n eang fel “endidau estron”, ac yn rhoi mwy o ddylanwad i wleidyddion dros bartneriaethau ymchwil a phenderfyniadau ariannu.
Fel y mae datganiad ALLEA yn nodi, dylai ymchwilwyr fod yn rhydd i ddewis eu cydweithwyr ar sail gwerth ychwanegol eu cyfraniad gwyddonol yn unig’. Rydym ni, fel y sefydliadau eraill sydd wedi llofnodi’r datganiad, yn credu y byddai’r cynigion hyn yn gosod cyfyngiadau annerbyniol ar ryddid academaidd ac ar yr angen hanfodol i syniadau fedru croesi ffiniau, heb gyfyngiadau na dylanwad gwleidyddol.
Cyflwynodd ALLEA y datganiad fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus, a oedd ar agor tan 13 Gorffennaf 2026.