Ethol Bryn Terfel fel Cymrawd Er Anrhydedd Academi Genedlaethol Cymru
Mae Syr Bryn Terfel, un o gantorion opera blaenllaw’r byd, wedi’i ethol fel Cymrawd er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Bydd yn cael ei urddo’n swyddogol yn y Senedd yng Nghaerdydd ar 6ed Tachwedd yn ystod dathliad i nodi 15 mlynedd o’r Gymdeithas. Gan blesio 150 o westeion, canodd Syr Bryn ddwy gân, I Can Give You the Starlight (Ivor Novello) a Suo Gân (traddodiadol), yng nghwmni ei wraig, y delynores o fri ryngwladol, Hannah Stone.
Mae’r Gymdeithas, fel Academi Genedlaethol Cymru, yn hyrwyddo ac yn datblygu cymuned ymchwil a gwybodaeth Cymru, ac yn cyfrannu at ddadleuon ynghylch polisïau sy’n effeithio ar Gymru.
Bydd Syr Bryn yn perfformio yn y digwyddiad gyda’i wraig, y delynores o fri rhyngwladol, Hannah Stone.
Mae Syr Bryn, a anwyd ym Mhant Glas, Gwynedd, wedi canu mewn tai opera ym mhob cwr o’r byd, wedi recordio gyda llawer o’r cwmnïau a’r cerddorfeydd blaenllaw, ac mae sawl gwobr wedi dod i’w law, gan gynnwys Grammy ar gyfer recordiad Metropolitan Opera 2013 o Der Ring des Nibelungen gan Richard Wagner.
Dyfarnir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i bobl sydd wedi sefydlu enw da a statws byd-eang yn eu maes. Mae’n ymuno ag enillydd Gwobr Nobel, yr Athro Bil Phillips, Cyn-lywydd Iwerddon, yr Athro Mary McAleese, a’r cyfansoddwr Karl Jenkins, a ddaw hefyd o’r byd cerddoriaeth yng Nghymru.
Dywedodd Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae’n anrhydedd croesawu Syr Bryn i’r Gymdeithas.
“Mae ei statws byd-eang fel canwr yn dweud y cyfan. Mae’r hyn mae’n ei wneud i gryfhau enw da Cymru yn fyd-eang yn amhrisiadwy.
“Yn ogystal, mae’r ffaith ei fod yn fodlon derbyn y Gymrodoriaeth er Anrhydedd yn dyst o’n henw da cynyddol. Wrth inni ddathlu 15 mlynedd ers ein sefydlu, mae disgwyl i’n rhan ym mywyd academaidd, dinesig a diwylliannol Cymru ddod yn ehangach byth, gyda chefnogaeth ein Cymrodyr a’n Cymrodyr er Anrhydedd.”