Y gronfa newydd sydd â’r nod o hybu diwylliant ymchwil Cymru  

Mae cronfa newydd yr ydym yn ei chyflwyno, mewn partneriaeth â Medr, yn ceisio annog diwylliant ymchwil cryf yng Nghymru a chefnogi ymchwilwyr a’u rhwydweithiau yn ystod cyfnod o bwysau i addysg uwch.

Mae buddsoddi mewn diwylliant ymchwil yn allweddol i gynnal ymchwil ragorol yng Nghymru gan sicrhau felly ei bod yn parhau i gyflawni effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd.

Bydd cynllun grant Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil Cymru yn cynnig hyd at £3000 i brosiectau llawr gwlad sy’n dod o hyd i ffyrdd cydweithredol o helpu i atgyfnerthu diwylliant ymchwil Cymru.

Rhwydwaith ymchwil, er diben y grant hwn, yw grŵp o ymchwilwyr sy’n mynd i’r afael â her neu fwlch penodol o fewn y dirwedd ymchwil. Un egwyddor allweddol yw y bydd yr arian yn cael ei dargedu at rwydweithiau llawr gwlad newydd neu sy’n bodoli eisoes, y rheiny sy’n cael eu hannog o’r gwaelod i fyny gan gymunedau o ymchwilwyr.

Gall rhwydweithiau o’r fath, a’r themâu y maent yn eu harchwilio, fod ar sawl ffurf. Mae enghreifftiau’n cynnwys y rheiny sy’n canolbwyntio ar yr heriau a wynebir ar gam gyrfa penodol; neu ar gael gwared ar rwystrau i ymchwilwyr â nodweddion gwarchodedig; neu gymunedau sydd wedi’u trefnu o gylch disgyblaethau penodol neu ddiddordebau ymchwil trawsddisgyblaethol.

Gyda’r nodau eang hynny mewn golwg, bydd gweithgareddau a ariennir yn canolbwyntio’n bennaf ar ddigwyddiadau a allai gynnwys cynadleddau, gweithdai, trafodaethau bord gron, encilfeydd ar gyfer ysgrifennu, a chyfleoedd rhwydweithio ffurfiol ac anffurfiol eraill.

Bydd y digwyddiadau hyn yn cynhyrchu allbynnau creadigol a gweledol i sicrhau bod y gwersi a’r syniadau sy’n datblygu yn cael eu rhannu ac yn annog ymgysylltiad gan gynulleidfa eang, yn arbennig y tu hwnt i’r byd academaidd.

Bydd y grantiau’n cyfrannu at ddiwylliant ymchwil cryf yng Nghymru drwy ddangos y manteision o gynnal ymchwil gydag uniondeb, mewn ffordd agored a chynhwysol, a thrwy groesawu ac annog cyfraniadau amrywiol.  Mae hyn yn cefnogi ymchwil i fod yn rhan annatod o’r gymdeithas ehangach y saif ynddi, gan gyfrannu at, ac yn cael ei dylanwadu gan, flaenoriaethau polisi cyhoeddus.

Mae’r cynllun yn agored i bob ymchwilydd, gan gynnwys ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa. Bydd y grantiau felly’n helpu i ddiogelu amgylchedd ymchwil Cymru ar gyfer y dyfodol drwy gefnogi doniau newydd a rhai sy’n datblygu.

Y budd i ymchwilwyr yw’r cyfle i gyrchu adnoddau na allent eu cyrchu fel arall, wrth ddatblygu sail tystiolaeth o waith sy’n cyfrannu at ddatblygiad gyrfa yn y dyfodol, a chynaliadwyedd hirdymor eu gwaith.

Bydd y gronfa’n cefnogi hyd at 13 prosiect. Bydd yr alwad am geisiadau yn dechrau’n gynnar ym mis Ionawr 2026. Bydd y gweithgareddau Diwylliant Ymchwil a ariennir yn rhedeg o fis Chwefror i fis Gorffennaf 2026. Bydd cyn lleied â phosibl o ofynion o ran ceisiadau ac adrodd, gyda’r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno erbyn diwedd Awst 2026.

yn ôl i'r brig