Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Cefnogi Cynllun Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2026-2031
Bu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydweithio am flynyddoedd ar gefnogi ysgoloriaeth yn y Gymraeg ar hyd pob maes astudio, o’n darlith flynyddol ar y cyd, i’n cystadleuaeth Traethawd Tri Munud i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.
Gyda’i gilydd, mae’r ddau sefydliad hwn yn greiddiol i seilwaith academaidd ac ymchwil Cymru, gan sicrhau bod ysgoloriaeth yn y Gymraeg yn ffynnu ar bob lefel – o ddawn y dyfodol i arweinwyr sefydlog.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyflawni gwaith hollbwysig gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, sefydliadau sy’n cynnig prentisiaethau, a chyflogwyr i greu cyfleoedd i hyfforddi ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei gynllun strategol newydd yn amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y system addysg drydyddol gyfan lle mae pob llwybr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw Academi Genedlaethol Cymru, corff etholedig o arbenigwyr gyda chenhadaeth gyffredin o ddefnyddio gwybodaeth er lles Cymru. Mae’r Gymraeg yn greiddiol i’n cenhadaeth, strategaeth a’n gwerthoedd. Mae gwaith y gymdeithas yn atgyfnerthu a hyrwyddo cenhadaeth y Coleg mewn sawl ffordd:
- Mae ein rhaglen Datblygu Ymchwilwyr yn cefnogi ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa i gynnal ymchwil ac ysgoloriaeth yn y Gymraeg – gan ddarparu mentoriaid a goruchwylwyr i fyfyrwyr y Coleg yn ogystal â chynnig llwybr amlwg ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y sector ymchwil, a helpu i greu amgylchedd ymchwil sy’n gwerthfawrogi ac yn normaleiddio’r Gymraeg.
- Mae ein rhaglen Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn darparu llwyfan cymunedol a hyfforddi rhyngddisgyblaethol i fyfyrwyr doethuriaeth ac ymchwilwyr gyrfa gynnar er mwyn iddynt ddatblygu sgiliau, cyfarfod ymchwilwyr eraill, ac ymarfer cyflwyno eu hymchwil yn Gymraeg.
- Myfyrwyr heddiw yw Cymrodyr yfory Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae ein Cymrodoriaeth yn cynnig cyrchfan i ysgolheigion ifanc Cymru ddyheu amdano, corff o fentoriaid ac eiriolwyr gwych, ac mae hefyd yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw Cymru mewn rhaglennu ac addysg Gymraeg.
- Rydym yn cynrychioli Cymru yn y DU a’r fforymau rhyngwladol, gan ddadlau dros fuddsoddiad yng Nghymru a pharch cyfartal i ysgoloriaeth cyfrwng Cymraeg yn y DU a’r ecosystem ymchwil fyd-eang.
Wrth symud ymlaen, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydweithio’n strategol i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chefnogi a’i phrif-ffrydio drwy’r system drydyddol ac ymchwil gyfan. Cadwch lygad am gyhoeddiadau pellach maes o law.