Anrhydeddau’r Orsedd i ddau o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Bydd dau o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cael eu derbyn fel Derwyddon Anrhydeddus yr Orsedd yn yr Eisteddfod eleni.
Bydd Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro Hywel Thomas a’r Dr Aled Eirug yn derbyn y wisg las gan yr Orsedd, neu Gyngor y Beirdd. Mae’r gymdeithas hon o feirdd, ysgrifenwyr ac eraill sydd wedi cyfrannu i Gymru, yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn chwarae rhan ganolog yn yr Eisteddfod flynyddol ac yn cyflwyno gwisgoedd glas i gydnabod cyflawniadau ym meysydd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau a gweithgareddau lleol a chenedlaethol.
Peiriannydd gyda phrofiad diwydiant yw’r Athro Thomas, ac mae ei waith ymchwil wedi ennill clod ledled y byd. Bu’n Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ers 2020, gan ei llywio drwy ddyfroedd dyfnion Covid ac ysgogi cynnydd wrth ddatblygu ymchwilwyr, ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant, a pherthnasoedd â phartneriaid allweddol fel Medr a’r Academïau Celtaidd.
Un o newyddiadurwyr amlycaf Cymru yw Dr Eirug, oedd yn arfer bod yn Bennaeth Newyddion BBC Cymru ac yn dal â rôl sylweddol mewn polisi ac eiriolaeth, yn arbennig ar gyfer yr Iaith Gymraeg.
Dyma deyrngedau’r Orsedd:
Mae Hywel Thomas, Penarth, yn academydd a wasanaethodd Gymru yn helaeth mewn ymchwil, arweinyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus. Yn dilyn cyfnod mewn diwydiant, fe’i penodwyd i staff Prifysgol Caerdydd, lle treuliodd ei yrfa academaidd, gan wasanaethu hefyd fel Dirprwy Is-ganghellor â chyfrifoldeb dros faterion rhyngwladol ac ymchwil. Yng Nghaerdydd mae’n Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil sy’n astudio amgylchedd y byd ac yn Athro UNESCO mewn datblygu cynaliadwy. Bu hefyd yn Gomisiynydd Bevan ac yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus ac addysg yng Nghymru.
Mae Aled Eirug, Caerdydd, wedi rhoi degawdau o wasanaeth i Gymru a’r Gymraeg ym meysydd newyddiaduraeth, darlledu, academia a bywyd cyhoeddus. Yn gyn-bennaeth Newyddion BBC Cymru, bu’n arwain darllediadau etholiadol, yn llunio polisi iaith leiafrifol ac yn cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae wedi cadeirio sawl corff cyhoeddus a gwirfoddol, arwain ymchwil i heddychiaeth, cyhoeddi gwaith dylanwadol, ac mae’n eiriolwr cyson dros heddwch, dwyieithrwydd a bywyd diwylliannol Cymru.
Dyfernir yr anrhydeddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir eleni o’r 1-8 Awst yn Llantwd (Llandudoch), Sir Benfro.
Byddwn yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod eleni, gyda’r Athro Siwan Davies FLSW, sydd yn aelod o’n Cyngor ac yn cadeirio ein grŵp cynghori ar ddatblygu ymchwilwyr, yn cyflwyno darlith flynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru am 11.30am, ddydd Iau 6ed Awst,( ‘Edrych yn ôl ac ymlaen ar yr argyfwng hinsawdd’). Rydym hefyd unwaith eto’n cyd-drefnu ein cystadleuaeth boblogaidd ‘traethawd tri munud’ gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gynhelir ddydd Iau 6 Awst, am 3.30pm ym mhabell y Cymdeithasau.