Symposiwm Iaith yn nodi’r bennod ddiweddaraf yn nhaith Cynghrair yr Academïau Celtaidd
Mae Cymdeithas Frenhinol Caeredin wedi cymryd rôl ysgrifenyddol Cynghrair yr Academïau Celtaidd drosodd yn llwyddiannus, a gafodd ei gydnabod mewn symposiwm ar ieithoedd yn Wrecsam ar ddydd Mercher 29 Ebrill.
Fe wnaeth Symposiwm Ieithoedd Cynghrair yr Academïau Celtaidd ddod ag ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisi o Ogledd Iwerddon, Iwerddon, yr Alban a Chymru at ei gilydd i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn cael eu cyflwyno yn sgil dysgu iaith.
Mae Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn cynnwys Cymdeithas Frenhinol Caeredin (RSE), Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW), ac Academi Frenhinol Iwerddon (RIA). Ei rôl yw hyrwyddo cydweithredu a chryfhau dealltwriaeth ar draws gwledydd y DU ac Iwerddon gyfan, a defnyddio arbenigedd cydweithredol y tair academi genedlaethol i gefnogi polisi cyhoeddus er mwyn mynd i’r afael â heriau cymdeithasol a rennir, a hyrwyddo ymchwil ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Bydd Llywydd RSE, yr Athro Syr Anton Muscatelli PRSE yn gwasanaethu fel cadeirydd y Gynghrair, ac yn cymryd lle’r cadeirydd blaenorol, yr Athro Hywel Thomas FLSW, llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
O dan arweiniad y Prifathro Thomas, sefydlodd Cynghrair yr Academïau Celtaidd ei hun yn ffurfiol, a dod ag arbenigwyr blaenllaw o bob cenedl Geltaidd at ei gilydd i gynghori swyddogion y llywodraeth a noddwyr ar bynciau sy’n cynnwys cydweithredu ar waith ymchwil, a’r cysylltiadau rhwng y cenhedloedd o fewn yr undeb.
Meddai’r Athro Thomas: “Mae’r symposiwm iaith yn Wrecsam yn dangos yn union y math o gydweithio a meddwl cydweithredol a oedd wrth wraidd ffurfio Cynghrair yr Academïau Celtaidd.”
“Amcan y Gynghrair yw mynd i’r afael â heriau a rennir, gyda chanlyniadau sy’n fuddiol i’r cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt. Un ffordd o wneud hynny yw defnyddio ymchwil i ddylanwadu ar drafodaethau a phenderfyniadau polisi, yn enwedig polisi iaith, fel y gwelwyd yn y symposiwm.
“Wrth i ni drosglwyddo rôl yr ysgrifennydd i Gymdeithas Frenhinol Caeredin, rydym yn gyffrous am y cyfleoedd sydd gan y Gynghrair i ffynnu yn y dyfodol.
Dywedodd Llywydd RSE Syr Anton Muscatelli: “Mae’n fraint gennyf dderbyn rôl cadeirydd Cynghrair yr Academïau Celtaidd. “Dim ond ym mis Ionawr eleni y cafodd Cynghrair yr Academïau Celtaidd ei ffurfioli, gan adeiladu ar y blynyddoedd o waith caled oedd wedi cael ei wneud yn barod.”
“Mae’r mathau hyn o bartneriaethau a chynghreiriau yn fwy pwysig nag erioed i’n cymunedau ymchwil ac i’n cymdeithas ehangach, ac rwy’n edrych ymlaen at arwain Cynghrair yr Academïau Celtaidd drwy ei hymrwymiadau yn ystod y flwyddyn nesaf.”