Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Prifysgol y Flwyddyn

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi derbyn y teitl mawreddog Prifysgol y Flwyddyn 2021 gan y Times Higher Education.

Mae’r dyfarniad yn cydnabod cyflawniadau Met Caerdydd yn ystod y flwyddyn academaidd 2019/20 a’r ffyrdd y mae’r Brifysgol wedi sefydlu ei hun fel prifysgol flaengar sy’n cael ei gyrru gan werthoedd ac sydd â phrofiad myfyrwyr a diwylliant staff rhagorol ac ymchwil ac arloesi effeithiol. Amlygwyd yr arweinyddiaeth dosturiol a’r dull rhagweithiol o reoli effaith pandemig y Coronafeirws hefyd fel nodweddion o berfformiad rhagorol Met Caerdydd. Tystir i lwyddiant diweddar y Brifysgol gan hanes a llwybr o dwf, arallgyfeirio a gwelliant, â chefnogaeth cyllid cynaliadwy, gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru’n ystyried Met Caerdydd yn brifysgol fwyaf cynaliadwy’n ariannol Cymru yn 2020.

Newyddion Met Caerdydd yw Prifysgol y Flwyddyn y Times Higher Education 2021