Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n croesawu Cymrodyr newydd

Gwyddonwyr rhagorol, academyddion blaenllaw a gweithwyr proffesiynol mawr eu bri’n ymuno ag Academi Genedlaethol Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n falch i gyhoeddi canlyniadau Etholiad 2016 gydag ethol Cymrodyr sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r etholiad hwn yn atgyfnerthu Cymrodoriaeth y Gymdeithas drwy ychwanegu 46 o Gymrodyr newydd. Erbyn hyn mae gan y Gymdeithas dros 420 o Gymrodyr, dynion a menywod nodedig o bob maes dysg sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd neu broffesiynau. Drwy ddod â’r cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, mae’r rhychwant hwn o arbenigedd yn galluogi’r Gymdeithas i gyfrannu at ddiben a lles cyffredin sef dyrchafu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd ynghyd â darparu cyngor annibynnol ac arbenigol i’r Llywodraeth. Eleni penderfynodd y Gymdeithas hefyd ethol 2 Gymrawd Er Anrhydedd am y tro cyntaf.

Gellir gweld y rhestr lawn o Gymrodyr newydd yma.

Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadleuaeth frwd i ymuno â Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Etholir cymrodyr yn dilyn archwiliad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol. Mae Cymrodyr yn cynorthwyo gwaith y Gymdeithas drwy wasanaethu ar ei hamrywiol bwyllgorau a gweithgorau a thrwy ein cynrychioli ni’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas:

 “Rwyf i’n falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar deilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus Cymru a thramor.

Mae’n galonogol hefyd fod y gyfran o Gymrodyr benywaidd sydd wedi’u hethol eleni (26%) yn adlewyrchu ymdrechion parhaus y Gymdeithas i wella cynrychiolaeth menywod ymhlith y Gymrodoriaeth. Mae nifer cynyddol o fenywod yn cyrraedd lefelau uchaf eu disgyblaeth, ac yn ddigon priodol caiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer a gaiff eu hethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas.”

Ceir proses ethol drylwyr ag iddi bum cam ar gyfer ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gymrodoriaeth ar agor i ddynion a menywod o bob oed ac o bob grŵp ethnig:

sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o’r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau’n aelodau o’r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi’u geni yng Nghymru ond sy’n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.

Mae nifer o’r Cymrodyr newydd yn nodedig nid yn unig am eu llwyddiannau unigol, ond hefyd am eu bod yn ffigurau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol yng nghymdeithas Cymru.

Etholiad 2016 yw’r chweched mewn proses dreigl o adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol. Bydd ffocws parhaus y Gymrodoriaeth ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r gorau o blith y prif ddisgyblaethau academaidd.

Gellir gweld y rhestr lawn o Gymrodyr newydd yma.