Cymru ddigarbon-net 2040: Gweledigaeth o’r dyfodol
26 Mehefin, 2019
Ar 25 Mawrth 2019, cynhaliom ni weithdy gyda’r Gymdeithas Frenhinol â’r teitl “Cymru ddigarbon-net 2040: Gweledigaeth o’r dyfodol” (Net-zero Carbon Wales 2040: A vision of the future).
Daeth y digwyddiad ag arbenigedd at ei gilydd o’r byd academaidd, llywodraeth a diwydiant i ystyried sut y gellid harneisio gwyddoniaeth ac asedau Cymru i ddatblygu’r wlad fel arweinydd byd mewn technolegau carbon isel.
Roedd y cyflwyniadau a’r sesiynau trafod yn ystyried rolau arloesi amaethyddol, tanwydd digarbon, a thechnolegau digidol wrth ddad-garboneiddio Cymru, a sut y gellid eu gwreiddio mewn ymagwedd system-gyfan i’r wlad.