Colocwiwm YGC 2025: Blaenoriaethu anghenion ECRs

Cynhelir trydydd Colocwiwm blynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar y mis nesaf. Am y tro cyntaf, bydd y Colocwiwm yn cael ei gynnal dros ddeuddydd, sy’n arwydd o’i bwysigrwydd cynyddol yn amgylchedd ymchwil Cymru.

Cynhelir y digwyddiad rhyngddisgyblaethol Cymru gyfan ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar y 3ydd i’r 4ydd o’r mis. Mae wedi’i anelu nid yn unig at ymchwilwyr o fewn y byd academaidd ond at y rhai sy’n gweithio yn y sectorau preifat a chyhoeddus, a’r trydydd sector hefyd.

Yn yr un modd â’r ddwy flynedd flaenorol, bydd yn dod ag ECRs ynghyd o bob rhan o Gymru i gyflwyno’u hymchwil i gynulleidfa drawsddisgyblaethol sy’n gefnogol ac yn dangos diddordeb. Dyma rwydwaith unigryw o ymchwilwyr, rhanddeiliaid a Chymrodoriaeth y Gymdeithas. 

Yn ôl Dr Barbara Ibinarriaga-Soltero, Rheolwr Rhaglen y Gymdeithas ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr, “Mae rhoi cyfle i ECRs rwydweithio â chymheiriaid, Cymrodyr y Gymdeithas, llunwyr polisi ac ymarferwyr yn rhan o’n blaenoriaeth strategol i gefnogi talent ymchwil yng Nghymru ac adeiladu amgylchedd cefnogol i ymchwilwyr”.

Bydd y Colocwiwm yn agor gyda phrif anerchiad gan Dr Emma Yhnell, un o Gymrodyr y Gymdeithas. Bydd ei sgwrs, ‘Dylanwad, dilysrwydd, a gwneud pethau’n wahanol’, yn archwilio ffyrdd o herio eich meddwl eich hun a thorri ar draws eich ffiniau eich hun o fewn y byd academaidd a thu hwnt. Ymhlith uchafbwyntiau eraill y digwyddiad fydd cyfres o sgyrsiau fflach ymchwil 3 munud o hyd, cystadleuaeth llunio poster, a chinio rhwydweithio â Chymrodyr  y Gymdeithas.

Blaenoriaethu anghenion ECRs

Pwyllgor trefnu a aeth ati i lunio rhaglen y Colocwiwm, gyda’r Pwyllgor hwnnw wedi’i ffurfio’n bennaf o ECRs, gyda chefnogaeth dau Gymrawd o’r Gymdeithas sy’n gweithio gyda’n tîm datblygu ymchwilwyr. Roedd cyfranogiad yr ECRs yn y broses gynllunio yn cynnwys eistedd ar y pwyllgor trefnu a’r panel adolygu crynodebau.

Mae eu rôl weithgar yn y Colocwiwm yn sicrhau y bydd y digwyddiad yn adlewyrchu profiadau, pryderon ac anghenion y bobl a fydd yn bresennol.

Yn ôl Barbara, “Nod ein holl waith datblygu ymchwilwyr yw bod yn gynhwysol, cael ein harwain gan ECRs, a bod yn rhyngddisgyblaethol a thraws-sectorol”.

“Mae’r Colocwiwm yn ffordd berffaith o arddangos y nodau hyn.”

Er mwyn sicrhau bod y digwyddiad mor gynhwysol â phosibl, rydym yn darparu bwrsariaethau teithio a llety er mwyn helpu ymchwilwyr i fod yn bresennol, yn enwedig rhai o grwpiau tangynrychioledig neu sydd heb fynediad at gymorth ariannol.

Darparu hyfforddiant sy’n bodloni anghenion ECRs

Bydd ECRs hefyd yn cadeirio’r sesiynau sgyrsiau fflach ac, ochr yn ochr ag ymchwilwyr canol gyrfa a Chymrodyr y Gymdeithas, yn arwain sesiynau gweithdy. Bydd y rhain yn cwmpasu ystod o bynciau, fel:

  • cyfleoedd i ymchwilwyr ymgysylltu â Chynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru;
  • meithrin hyder ac arweinyddiaeth drwy fentrau rhyngddisgyblaethol a ledled y DU fel Academi Ifanc y DU;
  • cyfrannu at gynnig cydweithredol sy’n anelu i feithrin cydraddoldeb a chynhwysiant yn yr amgylchedd ymchwil.

Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n bresennol ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Tîm Cyfnewid Gwybodaeth y Senedd, Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol a Gwasg Prifysgol Cymru. Bydd y rhain yn cyflwyno sesiynau sy’n rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ymchwilwyr i ymgysylltu â llunwyr polisi, i ledaenu effaith eu gwaith, a chodi eu proffil ymchwil er mwyn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Mae bron bob tocyn wedi’i werthu erbyn hyn, a’r cyfle olaf i gofrestru ar 20 Mehefin. Os ydych chi am fod yn bresennol, fe’ch anogir i archebu ar unwaith.

yn ôl i'r brig