Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn yr Eisteddfod
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni rhwng 3 a 10 Awst, gyda’r Maes yn Llanrwst yn Sir Conwy.
Mae’r Gymdeithas yn cynnal ac yn cefnogi digwyddiadau drwy gydol yr Eisteddfod, a gallwch ddarllen amdanynt isod. Mae nifer o’n Cymrodyr hefyd yn brysur gyda’r Eisteddfod mewn amrywiol ffyrdd, ac mae’r rhain hefyd wedi eu hamlinellu isod.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn yr Eisteddfod
Derbyniad i Gymrodyr
Byddwn yn cynnal derbyniad ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 12:30pm a 1:30pm ar 7 Awst, ac edrychwn ymlaen at weld Cymrodyr yn ymuno â ni yno.
‘Ar ymyl y gofod’, Yr Athro Eleri Pryse: Darlith Cymdeithas Ddysgedig Cymru
7 Awst – Cymdeithasau 2, 2:30pm
Mae’r Gymdeithas yn cynnal darlith eleni yn yr Eisteddfod gyda’r Athro Eleri Pryse FLSW.
‘Y Gyfraith yn ein Llên’: Yr Athro R Gwynedd Parry FLSW
Rydym ni hefyd yn cefnogi darlith Gwasg Prifysgol Cymru yn yr Eisteddfod eleni:
8 Awst – Cymdeithasau 1, 2:00pm
Cymrodyr yn yr Eisteddfod
5 Awst
Sut allwn sicrhau bod plant Cymru yn deall hanes eu cymunedau a’u gwlad?
11:30, Cymdeithasau 2
Ymunwch â thrafodaeth Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Cynulliad Cymru a fydd yn gofyn a fydd cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau’r canlyniadau sydd eu hangen i gyflawni’r amcan hwn. Bydd y panel trafod yn cynnwys Yr Athro Huw Pryce FLSW.
Lansio llyfr Ga’i Hanes Draig, Yr Athro Mererid Hopwood
12.00pm, Pabell Cyngor Llyfrau Cymru
Dŵr a Strwythurau Bywyd
12:30pm Cymdeithasau 2
Dan gadeiryddiaeth Yr Athro Prys Morgan FLSW, Yr Athro Deri Tomos FLSW, gynt o Brifysgol Bangor, sy’n traddodi Darlith Goffa Syr TH Parry-Williams eleni. Sesiwn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Emyr Humphreys yn 100
12:45pm, Y Babell Lên
Yr Athro M Wynn Thomas FLSW, deiliad Cadair Emyr Humphreys mewn Llên Cymru yn Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n cynnig golwg ar ei fywyd a’i waith.
Thomas Charles, Mary Jones a Chymdeithas y Beibl
2:00pm Pabell Cytûn
Sgwrs gan yr Athro E. Wyn James FLSW ar y testun ‘Thomas Charles, Mary Jones a Chymdeithas y Beibl’.
6 Awst
Gwobr Goffa’r Fonesig Ruth Herbert Lewis
10:30am Cymdeithasau 2
Cyflwyniad byr i fywyd a gwaith y Fonesig Ruth Herbert Lewis gan yr Athro E. Wyn James FLSW, yn rhan o lansiad cyfrol ar hanes Gwobr Goffa’r Fonesig Ruth Herbert Lewis dan olygyddiaeth Dr Prydwen Elfed-Owens.
Mererid Hopwood FLSW yn trafod cyfieithiad Y Cylch Sialc, Bertolt Brecht
12.30pm, Theatr Fach y Maes
Beth yw’r datblygiad gwyddonol pwysicaf yn y ganrif ddiwethaf?
2:30pm Cymdeithasau 2
Pedwar gwyddonydd blaenllaw – Dr Awen Iorwerth, Dr Daniel Roberts, Carwyn Edwards a’r Athro Sharon Huws, sy’n cael deng munud yr un i geisio darbwyllo’r gynulleidfa mai nhw sy’n gywir! Bydd cyfle i’r gynulleidfa bleidleisio am eu hoff ddatblygiad ar y diwedd. Darlith Goffa Eilir Hedd dan gadeiryddiaeth Yr Athro Deri Tomos FLSW. Sesiwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Groeg, Rhufain – a Llanrwst: Dyffryn Conwy a’r Clasuron
4:30yp Cymdeithasau 2
Yr Athro Ceri Davies FLSW sy’n traddodi darlith Adran Glasurol Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru o dan gadeiryddiaeth John Ellis Jones
7 Awst
Annus Mirabilis Iolo Morgannwg
11.00am, Y Babell Lên
Darlith Lenyeddol yr Eisteddfod, gan Yr Athro Geraint H Jenkins FLSW
‘Paul a’i Ddehonglwyr Cymreig’
2:00yp Pabell Cytûn
Darlith gan Y Parchedig Athro John Tudno Williams FLSW
Darganfod Hen Dai Cymreig
3:00yp Cymdeithasau 1
Rhys Mwyn sy’n traddodi darlith Cymdeithas Hynafiaethau Cymru, dan gadeiryddiaeth Yr Athro Prys Morgan FLSW
8 Awst
Oni fu pensaer eisoes yn ein mysg?
12:30yp Cymdeithasau 2
Dr Robin Chapman FLSW, dan gadeiryddiaeth Dr Dafydd Wiliams, fydd yn bwrw golwg ar genedlaetholdeb Cymreig cyn 1925. Sesiwn Cymdeithas Hanes Plaid Cymru
Gwyddonwyr Cymru
4:00yp, yn y ShowDome Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ddoe a heddiw’ Sesiwn drafod rhwng Hywel Madog Jones, Iwan Rhys Morus FLSW, Gareth Ffowc Roberts FLSW, Paula Roberts, Elin Rhys a Rowland Wynne
Cambria, Knoxville – a Llanrwst!
4:30yp Cymdeithasau 2
Darlith flynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Prifysgol Caerdydd, gyda’r Athrawon E Wyn James FLSW a Bill Jones
9 Awst
Beth mae ‘Rhyng-genedlaetholdeb Cymreig’ yn ei olygu yn 2019?
4:00yp Cymdeithasau 2
Mererid Hopwood FLSW ac Elin Royles sy’n trafod yn sesiwn cylchgrawn Planet