Hystings yn paratoi i holi ymgeiswyr y Senedd ynghylch polisïau gwyddoniaeth a diwylliant

Mae posibilrwydd y bydd etholiadau’r Senedd ym mis Mai eleni’n profi i fod yr etholiadau mwyaf canlyniadol i senedd ddatganoledig Cymru ers iddynt gael eu cynnal am y tro cyntaf ym 1999. Er mwyn sicrhau y caiff y pryderon ynghylch ymchwil eu hystyried yn ystod yr ymgyrch, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynnal dwy sesiwn hystings yn y cyfnod sy’n arwain at y bleidlais.

Cynhelir yr hystings hyn ar-lein, gyda chynrychiolwyr o’r pleidiau gwleidyddol yn bresennol, a byddant yn canolbwyntio ar ddau faes polisi hanfodol:

Bydd modd i’r rhai sy’n mynychu gyflwyno cwestiynau cyn y digwyddiad.

Caiff y digwyddiad STEMM ei gynnal mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n cynrychioli pob rhan o’r sector (gweler y rhestr isod). Bydd yn sefydlu safbwynt y pleidiau ar amrywiaeth eang o bolisïau a fydd yn cael effaith ar sylfaen ymchwil ac arloesi Cymru a sut y gall hyn effeithio ar ragolygon ar gyfer twf.

Bydd yr hystings diwylliant yn ystyried, mewn oes o gamwybodaeth, twyllwybodaeth, a siambrau adlais y cyfryngau, sut allwn ddatblygu a chynnal tirwedd ddiwylliannol gyfoethog Cymru.

Mynychu’r hystings:

Mae’r hystings STEMM yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Ffiseg, y Gymdeithas Frenhinol Bioleg, y Gymdeithas Frenhinol Cemeg, Ymchwil Canser y DU, y Gymdeithas Ffisiolegol, Science Made Simple, y Sefydliad Codio yng Nghymru, Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru, BCS y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG, y Sefydliad Peirianwyr Strwythurol, Technocamps, y Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil, yr Arolwg Daearegol Prydeinig, yr Ymgyrch dros Wyddoniaeth a Pheirianneg, y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, Academi’r Gwyddorau Mathemategol, y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff a’r Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

Mae’r hystings Diwylliant yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru.

yn ôl i'r brig