Newyddion y Cymrodyr: Beirdd, Cantorion, Arloesi, WISERD a’r Saeson

Bydd Gŵyl Farddoniaeth Caerdydd yn cael ei chynnal rhwng y 15fed a’r 18fed o Ebrill. Mae’r Athro Mererid Hopwood a’r Athro Menna Elfyn yn cymryd rhan, a bydd yr Athro M. Wynn Thomas yn cyflwyno darlith. Gallwch fwynhau tri ar hugain o ddarlleniadau, gweithdai a digwyddiadau o gysur eich soffa.

Mae Bob Dylan a Leonard Cohen yn feirdd hefyd, yn ogystal â chyfansoddwyr caneuon. Mae eu cysylltiadau â Dylan Thomas ac awduron eraill y “Beat Generation” yn cael eu harchwilio yn y nofel Bob Dylan and Leonard Cohen: Deaths and Entrances, sydd wedi cael ei hysgrifennu ar y cyd gan yr Athro David Boucher a’i ferch Lucy Boucher.

Mae gwaith nifer o’n Cymrodyr yn cael sylw yn adroddiad blynyddol WISERD eleni. Mae Covid19 a Brexit yn cael eu trafod, wrth gwrs, ond mae’r Athro Sally Power yn tynnu sylw at waith arall WISERD y llynedd ar gymdeithas sifil, melinau trafod, gweithio gartref, llywodraethu ysgolion, yr Economi Sylfaenol a llawer mwy.

Nid oedd Seisnigrwydd yn un o themâu WISERD ond dim i boeni: Mae’r Athro Richard Wyn Jones wedi llenwi’r bwlch hwnnw, drwy gyd-ysgrifennu’r cyhoeddiad diweddar Englishness: The Political Force Transforming Britain. Mae’n archwilio ‘ymdeimlad o achwyniad cenedlaetholdeb Saesneg am le Lloegr o fewn y DU… [ac] ymrwymiad ffyrnig i weledigaeth benodol o orffennol, presennol a dyfodol Prydain.’

Yn ôl ar ochr Cymru o’r ffin, mae’r Athro Rick Delbridge a’r Athro Kevin Morgan wedi ysgrifennu blog, Agenda Arloesedd Newydd i Gymru. Mae’n ystyried y ‘newid sefydliadol a fydd yn arwain at newid diwylliannol yn y ffyrdd y mae prifysgolion a’r sector cyhoeddus yn cymryd rhan mewn gweithgarwch arloesi.’