Pa mor ddifrifol ydy’r argyfwng bioamrywiaeth yng Nghymru mewn gwirionedd?

Mae cyfuno’r ffyrdd presennol a ffyrdd newydd o gasglu tystiolaeth yn hanfodol i helpu llunwyr polisi i gael mynediad at y data sydd eu hangen i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth sy’n cyflymu yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dyma un o argymhellion briff polisi newydd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n seiliedig ar fewnwelediad arbenigol rhai o’i 750 o Gymrodyr.

Mae Mesur Bioamrywiaeth yng Nghymru yn ystyried y ffyrdd gorau o gasglu tystiolaeth i’n helpu i ddeall dyfnder yr argyfwng bioamrywiaeth. Mae gan wyddonwyr dinasyddion, elusennau a datblygwyr preifat i gyd rôl i’w chwarae ochr yn ochr â’r gymuned wyddonol academaidd.

Ei brif argymhelliad ydy gwella’r cydgysylltiad rhwng y sector statudol, gwyddonwyr prifysgol, cyrff ymchwil, elusennau a gwyddonwyr dinasyddion. Gallai hyn arwain at un pwynt mynediad at ddata i gyrff gwneud penderfyniadau fel pwyllgorau craffu’r Senedd.

Mae’r briff yn dadlau bod angen ymagwedd sy’n cyfuno’r ffurf bresennol a’r ffyrdd newydd o fesur bioamrywiaeth i gyflawni hyn. Mae ffyrdd newydd o gasglu data yn cynnwys mesuriadau moleciwlaidd, yn ogystal â defnyddio dronau, lloerennau, bioacwsteg a monitro gyda chamerâu. Fodd bynnag, mae llawer iawn o ddata ar gael yn barod ond yn dal i fod heb ei ddefnyddio, gan eu bod yn anodd eu cyrchu, heb gael eu dadansoddi eto, neu yn achos data gwyddonwyr dinasyddion, ddim yn bodloni’r un safonau â data a gynhyrchir gan wyddonwyr proffesiynol.

Byddai sicrhau bod data presennol ar gael a’u bod yn cael eu cyfuno â thystiolaeth newydd yn arwain at ddealltwriaeth fwy cynhwysfawr o’r problemau, ac yn helpu i lywio camau yn y dyfodol.

Mae’r briff yn cyfeirio at Adroddiad Cyflwr Natur 2023, ac yn nodi bod 18% o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, bod bywyd gwyllt wedi gostwng 20% ers 1994, a bod 42% o rywogaethau planhigion i’w cael mewn llai o leoedd nag o’r blaen.

Yr Athro Lynda Warren FLSW, Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru, said:

Tynnodd Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (IEPAW) sylw at yr angen am ragor o waith monitro safleoedd ac argymhellodd rannu tystiolaeth o ystod o ffynonellau yn well yn ei adroddiad ar Safleoedd Gwarchodedig yng Nghymru.

“Rwyf wrth fy modd bod adroddiad Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar Fesur Bioamrywiaeth yng Nghymru wedi mynd â’r argymhelliad hwn gam ymhellach drwy argymell cydnawsedd gwell rhwng sectorau i wella mynediad at ddata.”

yn ôl i'r brig