Cyhoeddi Cerddi i Nodi Dechrau Cynhadledd Iaith

Mae cyfres o gerddi gan feirdd o Gymru wedi cael eu comisiynu’n arbennig – ac yn cael eu cyhoeddi heddiw – fel rhan o ŵyl a chynhadledd iaith sy’n ceisio archwilio sut y gall Cymru wneud y gorau o’i threftadaeth iaith unigryw.

Dewiswyd naw o gerddi mewn ymateb i friff agored i ymateb i’r pwnc ‘beth yw iaith i chi?’ Y bwriad oedd cefnogi pobl greadigol yn y cyfnod anodd hwn, ac oherwydd bod barddoniaeth yn cynnig lle gwych i ystyried iaith yn ei holl agweddau.

Hanan Issa oedd un o’r beirdd a ddewiswyd, y mae ei barddoniaeth yn cael ei hysbrydoli gan  ei chefndir treftadaeth gymysg a’i chysylltiad a’i datgysylltiad â Chymru. Mae ei cherdd, ‘The Land would Disappear’ yn trafod y teimladau o fod yn fenyw hil gymysg sy’n byw yng Nghymru. Mae cerdd Rufus Mufasa, ‘Addasu’, sy’n sôn am addysgu yn ystod y cyfnod clo ac addasu i’r normal newydd, yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o’r ddwy iaith.

Mae’r cerddi yn ddathliad o iaith a dwyieithrwydd fel rhan o Trwy Brism Iaith, digwyddiad ar-lein am ddim, a drefnir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r digwyddiad tridiau yn cynnwys deg sesiwn, gan fynd i’r afael â materion fel:

  • Sut y gall Cymru gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
  • Pam mae’r ymennydd dwyieithog niwrolegol wahanol i ymennydd uniaith?
  • Sut mae iaith yn llywio ein hymdeimlad o  berthyn?

Bydd y digwyddiad yn dechrau heddiw gyda gair o groeso gan Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg. Bydd cyfres eang o siaradwyr o’r byd academaidd, addysg a’r celfyddydau yn ymuno â hi yn cynnwys yr Athro Mererid Hopwood,  yr Athro Antonella Sorace, y nofelydd a’r academydd Patrick McGuinness, yr academydd Americanaidd David Gramling a’r Athro Alison Phipps.

Bydd y rhain, a siaradwyr eraill o bob cwr o’r byd, yn edrych ar sut mae iaith yn creu ymdeimlad o hunaniaeth, perthyn ac amrywiaeth ddiwylliannol. Bydd yn gofyn pa gamau polisi ymarferol sydd eu hangen i osgoi’r risg o ddiflaniad iaith. Bydd yn cyfeirio at y gwersi a ddysgwyd yng Nghymru a’r gwersi y gall Cymru eu dysgu o wledydd eraill.  Bydd yn ystyried sut y gall Cymru gyflawni ei nodau llesiant i greu diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus er mwyn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw Academi Genedlaethol Cymru. Ei chenhadaeth yw hyrwyddo rhagoriaeth ac ysgoloriaeth, ysbrydoli dysgu a bod o fudd i’r genedl. Enwyd y digwyddiad oherwydd bod ymchwil iaith yn gweithredu fel ‘prism’ a fydd yn ein galluogi i weld mwy o’r sbectrwm o bosibiliadau y gall dwyieithrwydd ac amlieithrwydd eu cynnig. Trefnwyd i’r gynhadledd gael ei chynnal yn wreiddiol yng Ngwanwyn 2020, ond oherwydd y tarfu a fu yn sgil COVID-19 mae’r symposiwm bellach yn cael ei gynnal ar-lein.

Bydd tocyn tridiau yn caniatáu i’r rhai sy’n bresennol ddewis a dethol pa ddarlithoedd, trafodaethau panel a sgyrsiau sydd o ddiddordeb mawr iddynt. Mae manylion y rhaglen yma. Bydd yr holl sesiynau hefyd yn cael eu darlledu ar sinael y Gymdeithas ar blatfform AM. Gellir gweld fideos o’r holl feirdd a ddewiswyd yn darllen eu gwaith i gamera yma.