Yr Athro Raluca Radulescu FLSW yn arwain y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol
Mae ein FLSW, aelod o’r Pwyllgor Dibenion Cyffredinol a chynrychiolydd Prifysgol Bangor, yr Athro Raluca Radulescu, wedi cael ei hethol yn Lywydd y Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol (https://ias-sia-iag.org/2024/07/23/general-assembly-of-the-society-and-next-congress/) yn y 27ain Gyngres Arthuraidd Ryngwladol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Marseille-Aix-en-Provence ym mis Gorffennaf.
Yn yr un digwyddiad, cafodd ei gwahodd hefyd i gyflwyno un o’r prif ddarlithoeddo o’i hymchwil ar y trawsdoriad rhwng ffuglen a hanes wrth gynhyrchu a derbyn naratifau Arthuraidd yn Lloegr, a bydd rhai ohonynt yn cael eu cyhoeddi yn Cambridge History of Arthurian Literature and Culture sydd ar ddod, [2 gyfrol, 60 pennod, golygwyd ar y cyd. Raluca Radulescu a’r Athro Andrew Lynch, Prifysgol Gorllewin Awstralia (2025).] Mae ymchwil helaeth yr Athro Radulescu yn trafod pob agwedd ar lenyddiaeth a diwylliant canoloeso, a archwiliwyd o berspectif sy’n cymharu ar draws Ewrop. (edrychwch ar The Routledge Companion to Medieval English Literaturein a Trans-European Context, sydd wedi cael ei olyguar y cyd gan yr Athro Sif Rikhardsdottir, Prifysgol Gwlad yr Iâ, a Chyfarwyddwr Gweithredol New Chaucer Society (Routledge, 2023)), sy’n cynnwys y llawysgrif (deunydd) a’r diwylliant gwleidyddol yr ysgrifennwyd y testunau ynddynt.
Cymdeithas ysgolheigaidd yw’r IAS, a fydd yn dathlu ei chanmlwyddiant cyn bo hir; mae ganddi dros 1,000 o aelodau o bob cyfandir, o dros 50 o wledydd a 120 o brifysgolion. Mae gwaith y gymdeithas yn cwmpasu llenyddiaethau mewn ieithoedd o bob rhan o’r byd, o’r cyfnod canoloesol hyd heddiw. Gwasanaethodd yr Athro Radulescu yn flaenorol fel Llywydd cangen Prydain ac Iwerddon o’r un gymdeithas (2015-18), a chafodd ei hethol yn olygydd, am ddau dymor, o’i chylchgrawn rhyngwladol a adolygwyd gan gymheiriaid a’i llyfryddiaeth flynyddol o dros 700 o eitemau (2011-2017).
Mae tymor yr Athro Radulescu am dair blynedd (2024-27) ac, yn y capasiti hwn, bydd hefyd yn parhau i gynrychioli’r traddodiad a ddatblygwyd gan ffigurau blaenllaw mewn astudiaethau Celtaidd ac Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, ers sefydlu’r brifysgol hyd heddiw.
Bydd y traddodiad hwn yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad cyhoeddus yn y gyfres o ddathliadau 140 Prifysgol Bangor, a fydd yn cael ei gynnal yn Pontio, Canolfan y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor, ac a fydd yn cael ei noddi ar y cyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgol Bangor. Bydd y digwyddiad yn arddangos Archifau a Chasgliadau Arbennig hirsefydlog Prifysgol Bangor yng ngwaith y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd (https://www.bangor.ac.uk/centre-for-arthurian-studies), gan gynnwys rôl ganolog rhoddwyr lleol yng Ngogledd Cymru wrth sefydlu llyfrgell y brifysgol.