Swyddi Gwag Cynghorau Ymchwil, Gweithgorau, Bwrdd a Phrif Swyddog Gweithredol

Mae UK Research and Innovation (UKRI) yn ceisio penodi aelodau’r Cyngor ar draws chwech o’r saith Cyngor Ymchwil ac Ymchwil Lloegr. Mae rhagor o fanylion am y rolau a sut i wneud cais ar gael yma. Dyddiad cau: 23 Gorffennaf

Mae CaSE eisiau penodi hyd at dri aelod newydd o’r Bwrdd yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd 2021 ac mae’n croesawu awgrymiadau a cheisiadau uniongyrchol am ymgeiswyr. Y dyddiad cau ar gyfer anfon awgrymiadau ydy dydd Gwener 16 Gorffennaf, a gallwch ddarllen mwy yma.

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn bwriadu penodi Prif Weithredwr cyntaf ARIA (Advanced Research and Innovation Agency). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd uchel ei barch mewn maes gwyddonol neu dechnegol, gyda phrofiad o’r broses ymchwil a datblygu. Manylion pellach yma.