Syr John Meurig Thomas

Gyda thristwch mawr y cofnodwn farwolaeth Syr John Meurig Thomas.

Yr oedd Syr John yn adnabyddus am ei waith ym maes gwyddoniaeth catalyddion a chemeg cyflwr solet. Mae cadwyn gynhyrchu llawer o ddeunyddiau a chemegau modern yn cynnwys catalyddion – sylweddau sy’n cyflymu adweithiau cemegol, ond sy’n defnyddio llai o ynni ac nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llwyr eu hunain. Yr oedd Syr John wedi arwain y ffordd gan ddatblygu catalyddion ‘gwyrdd’ i leihau llygredd yn y prosesau cemegol a’u gwneud yn fwy effeithlon.

Bu Syr John yn arloesi gyda’r defnydd o dechnolegau fel microsgopeg electron a diffreithiant niwtronau i ‘weld’ sut mae nodweddion miniscwl arwyneb y catalyddion yn effeithio ar adweithiau cemegol. Oedd ganddo arbenigedd penodol ym maes catalyddion heterogenaidd – rhai sydd mewn cam gwahanol i’r cemegau sy’n adweithio, fel deunydd soled sy’n catalyddu adweithiau hylifau.

Dyfarnwyd Medal Frenhinol 2016 yn y Gwyddorau Ffisegol i Syr John Meurig Thomas HonFREng FRS FLSW, un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, am ei waith arloesol ym maes cemeg catalytig, yn enwedig ar gatalyddion heterogenaidd safle sengl, sydd wedi cael effaith fawr ar gemeg werdd, technoleg lân a chynaladwyedd.

Dechreuodd bywyd academaidd Syr John ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, ac ef yw’r cyntaf o blith graddedigion y Brifysgol hon i dderbyn Medal Frenhinol. Oedd gan Syr John gysylltiadau â nifer o Brifysgolion eraill Cymru, gan gynnwys gweithio i Brifysgol Cymru Bangor, bu’n Bennaeth yr Adran Cemeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn Is-Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru ac ar hyn o bryd mae’n Athro Nodedig Er Anrhydedd mewn Cemeg Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd Syr John yn gyfarwyddwr y Sefydliad Brenhinol rhwng 1986 a 1991 a bu hefyd yn Bennaeth yr Adran Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac yn ddiweddarach yn Feistr Coleg Peterhouse. Dyrchafwyd Syr John yn farchog yn 1991 am ei wasanaeth i gemeg a phoblogeiddio gwyddoniaeth.