Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Rhyngwladol newydd: Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Ymateb

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu fersiwn arbennig ar gyfer Cymru o raglen gyfnewid addysg Erasmus+

Bydd y cynllun £65m yn rhedeg ochr yn ochr â’r cynllun Turing ledled y DU ond yn caniatáu ar gyfer cyfnewidiadau myfyrwyr a staff dwyochrog rhwng Cymru â sefydliadau rhyngwladol nad ydynt yn rhan o gynllun Turing. 

Ym mis Ionawr, gwnaethom fynegi ein siom bod llywodraeth y DU wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y rhaglen Erasmus+. Yn flaenorol roeddem wedi tynnu sylw at werth Erasmus+ i ysgolion, myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion yng Nghymru a bu i ni bwysleisio ein cred fod Cymru wedi elwa o gymryd rhan yn y rhaglen. 

Mae’r penderfyniad i gyflwyno rhaglen newydd sy’n arbennig ar gyfer Cymru, fodd bynnag, yn gam cadarnhaol a fydd o fudd i fyfyrwyr, ymchwilwyr a phrifysgolion Cymru.