Mae Grym Meddal yn Gallu Hyrwyddo Cymru ar Lwyfan y Byd


Mae gweledigaeth o Gymru fel cenedl hunanhyderus, allblyg, sy’n gwneud y mwyaf o’i diwylliant nodedig, yn cael ei ddarlunio mewn adroddiad newydd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae Cymru a’r Byd: Partneriaethau Byd-eang, Manteision Lleol yn dadlau bod yn rhaid i Gymru wneud y mwyaf o’i “grym meddal”, ei phrifysgolion, y celfyddydau, diwylliant ac iaith, i greu proffil rhyngwladol cryf mewn byd sydd wedi cael ei ail-lunio gan Brexit a’r pandemig Covid19. Bydd llwyddiant dull gweithredu o’r fath yn dibynnu ar fuddsoddiad strategol hirdymor, ac ar weithio’n agos gyda phartneriaid yn y DU.

Daeth y canfyddiadau i’r amlwg o gyfres o bedwar digwyddiad Cymru a’r Byd a gynhaliwyd rhwng 2019-20. Roedd y prif argymhellion yn cynnwys:

  • penodi ‘llysgenhadon’ cenedlaethol i hyrwyddo Cymru’n rhyngwladol
  • mwy o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a chwaraeon cenedlaethol
  • gwell defnydd o seilwaith, sefydliadau a mentrau rhyngwladol y DU
  • mwy o gydweithredu rhwng prifysgolion Cymru yn eu gwaith rhyngwladol, a chanolbwyntio ar ddefnyddio myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr tramor i hyrwyddo Cymru yn y byd
  • bod yn rhaid i’r strategaeth ryngwladol i Gymru fod yn strategaeth hirdymor, a bod yn uchelgeisiol o ran sut mae’n gweithio gyda phartneriaid o’r tu allan i ffiniau’r llywodraeth.

Meddai Martin Pollard, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac awdur yr adroddiad:

“Dechreuodd ein cyfres Cymru a’r Byd fel ymateb i strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, a’r effaith y byddai Brexit yn ei chael ar berthynas y DU a Chymru â gweddill y byd.

“Rhoddodd Covid19 ffocws newydd i’r trafodaethau hynny, yn rhannol oherwydd mwy o werthfawrogiad gan y cyhoedd o rôl llywodraethau datganoledig.

“Mae’r adroddiad yn darparu argymhellion ymarferol i lywodraeth a phrifysgolion Cymru ar sut y gallant dynnu sylw at ein hasedau unigryw, a datblygu ein potensial ar y cyd yn wyneb heriau byd-eang.”

Y pedwar digwyddiad oedd: