Cynllun Grant Llwyddiannus Ar Waith ar gyfer 2023 – Hyd at £1000 Ar Gael

Mae cylch diweddaraf ein Cynllun Grant Gweithdai Ymchwil llwyddiannus bellach ar agor, ac yn cynnig hyd at £1000 i gefnogi prosiectau ymchwil sydd yn y cam cynllunio cynnar.

Cafodd y cynllun, sy’n cael ei gefnogi gan CCAUC, ei lansio yn 2022; ers hynny, mae 15 prosiect wedi cael cefnogaeth, gyda dros £14,000 yn cael ei ddyfarnu i geisiadau llwyddiannus.

“Mae’r cynllun wedi dod yn rhan bwysig o dirlun ymchwil Cymru,” meddai Cathy Stroemer, sy’n rhedeg ein Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr.

“Mae sawl un o’r cynlluniau rydym wedi eu cefnogi yn barod wedi defnyddio ein grant i wneud cais llwyddiannus am arian ychwanegol.

“Mae’r cynllun yn dangos sut mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn helpu i wella’r amgylchedd ymchwil yng Nghymru.”

Mae’r grantiau yn cael eu dyfarnu i geisiadau ymchwil sy’n dod o fewn un o’r tri categori canlynol:

  • Astudiaethau Cymru,
  • Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
  • Y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Mae arian sydd yn cael ei ddyfarnu yn cael ei ddefnyddio i redeg gweithdai sy’n dod ag ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd ac o amrywiaeth o sefydliadau. Bwriad y gweithdai ydy datblygu’r ceisiadau ymchwil a gallai hyn yn ddiweddarach, arwain at gyflwyno ceisiadau am arian ychwanegol