Sut ddylai Cymru ei chyflwyno ei hun ar lwyfan y byd?
Wrth i dîm rygbi Cymru gystadlu am le yn rownd derfynol cwpan y byd yn Yokohama – gyda chefnogwyr Japan a Chymru’n canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ a ‘Calon Lan’ i’w cefnogi – bydd digwyddiad ddydd Llun yn ystyried sut y dylai Cymru ei darlunio ei hun ar lwyfan y byd, a gwneud gwell defnydd o’i phŵer meddal.
Gan gyd-fynd â datblygu Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, nod y gyfres hon o ddigwyddiadau yw ehangu’r drafodaeth a dwysau ein dealltwriaeth o asedau “grym meddal” Cymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan fo sefyllfa’r genedl ar ôl Brexit yn aneglur.
Bydd y digwyddiad cyntaf, cynhelir ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn trafod safbwyntiau ar bŵer meddal, ac yn ceisio cynnig awgrymiadau ymarferol i ddatblygu proffil byd-eang Cymru.
Diffinnir pŵer meddal gan yr Athro Joe Nye fel “pŵer atyniad”, ac mae’n offeryn pwerus i genedl fach fel Cymru. Mae chwaraeon, addysg, treftadaeth a diwylliant yn fodd i ddylanwadu ar eraill, a chodi proffil gweithgareddau sydd â buddion eang i Gymru, oddi mewn a’r tu allan i’n cenedl.
Mewn neges fideo ar gyfer y digwyddiad, mae’r Athro Nye yn ein hatgoffa bod cwymp Wal Berlin bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ôl yn enghraifft o effaith hanesyddol pŵer meddal, oherwydd fe’i chwalwyd gan y bobl hynny y tu ôl i’r Llen Haearn yr oedd eu meddyliau wedi’u newid gan ‘bŵer meddal’ y gorllewin:
“Mae pŵer meddal gwlad yn dibynnu nid yn unig ar weithredoedd y llywodraeth, ond ar atyniad ei chymdeithas sifil […] mae gan unigolion hefyd bŵer meddal. Mae llawer o’n cysylltiadau’n cynnwys perswadio pobl eraill.”
Caiff amrywiaeth eang o randdeiliaid eu cynrychioli yn y digwyddiad, gan gynnwys cyrff diwylliannol, y trydydd sector, prifysgolion a cholegau, a’r llywodraeth.
Bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yn siarad yn y digwyddiad. Dywedodd:
“Mae’n bwysicach nag erioed i ni wneud popeth y gallwn i hyrwyddo Cymru dramor. Mae hyn yn golygu defnyddio pob ased sydd ar gael i ni. Dros yr wythnosau diwethaf rydym ni wedi gweld sut gall pŵer meddal helpu i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd. Mae ein hiaith, ein creadigrwydd, ein diwylliant ac wrth gwrs ein hangerdd dros rygbi wedi cydio yn nychymyg Japan mewn ffordd na welwyd ei debyg. Mae gan bartneriaid yng Nghymru a thramor ran i’w chwarae a gallwn ni ni gyflawni mwy pan fyddwn ni’n cydweithio. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle amserol i archwilio sut y gallwn gynyddu’r buddion mae pŵer meddal yn eu cyflwyno i Gymru mewn cyd-destun gwleidyddol ac economaidd heriol sy’n esblygu.”
Dywedodd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Cara Aitchison,
‘Rwyf i wrth fy modd fod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal y digwyddiad cyntaf hwn yng nghyfres amserol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar Strategaethau Pŵer Meddal i Gymru ac mae’n bleser ac yn anrhydedd cael croesawu siaradwyr a gwesteion i’n prifysgol heddiw. Does dim modd gorbwysleisio dylanwad Pŵer Meddal mewn cyd-destun byd-eang ac mae rôl addysg uwch yng Nghymru yn cyflawni effaith sylweddol.
“Mae ein haddysgu, ymchwil, arloesi a gweithgareddau ehangach eisoes wedi’u gwreiddio’n ddwfn gyda gwerthoedd ac ymddygiad sy’n gysylltiedig â diplomyddiaeth ddiwylliannol. Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw un o brifysgolion mwyaf rhyngwladol y DU gyda myfyrwyr o 140 o wledydd yn cynnwys dros 9,000 yn astudio graddau Metropolitan Caerdydd yn ein sefydliadau partner yn Bahrain, Bangladesh, Bwlgaria, Tsieina, Cyprus, Gwlad Groeg, yr Aifft, Ethiopia, India, Lebanon, Malaysia, Morocco, Nepal, Oman, Fietnam, Singapore a Sri Lanka.
“Mae ei staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddiplomyddiaeth ddiwylliannol, nid yn unig drwy addysg ac ymchwil ond drwy berfformiad chwaraeon, ymarfer celf a dylunio ac ymchwil twristiaeth. Mae ein campwyr Olympaidd, Pencampwyr Ewropeaidd a Byd, ynghyd â’n hartistiaid a’n dylunwyr byd-enwog gwobrwyedig, yn llysgenhadon diwylliannol i Gymru sydd, drwy eu symudedd a’u hymgysylltu rhyngwladol, yn cynrychioli adnodd pwerus i Gymru yn y byd ehangach.”
Bydd y diwrnod yn thrafod:
- Beth yw grym meddal, a pham a sut mae’n berthnasol i Gymru?
- Sut caiff grym meddal Cymru ei hybu neu ei gyfyngu gan ei safle yn y DU?
- I ba raddau mae Cymru’n gwneud y defnydd gorau o’i ‘brand’ a’i hadnoddau ‘grym meddal’?
- Beth yw’r straeon rydym ni am eu hadrodd am Gymru i godi proffil y genedl?
- Sut gallwn ni ddatgloi’r potensial hwn er budd diwylliant, economi a phobl Cymru?
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
- Eluned Morgan AM, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Yr Athro Karen Smith, Athro mewn Cydberthynas y Gwledydd, Ysgol Economeg Llundain
- Paul Brummel, Pennaeth Grym Meddal a Materion Allanol, Y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad
- Imants Liegis, Llysgennad Latfia i Ffrainc
- Rob Humphreys, Cadeirydd British Council Wales
- Peter Florence, Gwyl y Gelli
- Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
- Owen Hathway, Chwaraeon Cymru