Syr Ronald Mason

Roeddem yn drist iawn i glywed y newyddion am farwolaeth un o’n Cymrodyr Sefydlu, Syr Ronald Mason KCB FRSC FIMMM FLSW FRS.

Roedd Syr Ronald yn gyn Athro Cemeg Anorganig ym Mhrifysgol Sheffield, ac yn Brif Gynghorydd Gwyddonol y Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn ddiweddarach, daeth yn Gadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Coleg y Brifysgol.

Roedd Syr Ronald yn wyddonydd a gwas cyhoeddus nodedig iawn, ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y Gymdeithas a’i Chymrodyr.

Bydd coffâd llawn yn cael ei gyhoeddi maes o law.