Academi’r Ifanc y DU yn Cyhoeddi Aelodau Cyntaf – Pump Wedi’u Lleoli yng Nghymru

Dewiswyd 67 o aelodau o bob disgyblaeth i roi llais er mwyn newid yn Academi’r Ifanc newydd y DU gyfan.

Heddiw mae Academïau Cenedlaethol y DU ac Iwerddon wedi cyhoeddi aelodau cyntaf Academi’r Ifanc newydd y DU gyfan. Dyma rwydwaith o ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa a sefydlwyd i helpu i fynd i’r afael â materion lleol a byd-eang, yn ogystal â hyrwyddo newid ystyrlon.

Daw pump o’r aelodau newydd o brifysgolion yng Nghymru:

  • Muhammad Naeem Anwar, Royal Society-Newton International Fellow (Physics), Prifysgol Abertawe
  • Barbara Hughes-Moore, Darlithydd yn y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd
  • Aditee Mitra, Cymrawd Ymchwil (Ecoleg Forol), Prifysgol Caerdydd
  • Isabel Moore, Darllenydd mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Mirain Rhys, Uwch-Ddarlithydd, Seicoleg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Dywedodd Syr Adrian Smith, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, “Rydym yn falch iawn o gyflwyno aelodau cyntaf Academi Ifanc y DU. Mae hwn yn gyflawniad enfawr iddynt ac yn gam cyffrous i’r DU yn natblygiad Academi’r Ifanc.

“Mae’n hanfodol bod y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol yn sefydlu eu hunain ar reng flaen y materion pwysicaf. Mae canfod atebion i broblemau byd-eang – pandemigau, newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac anghydraddoldeb cymdeithasol – angen cael ei arwain gan ddulliau meddwl ar y cyd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, profiadau bywyd a syniadau.

“Edrychaf ymlaen at weld y garfan gyntaf yn cymryd perchnogaeth o’r fenter newydd hon gydag egni a brwdfrydedd wrth iddynt osod y sylfeini ar gyfer Academi’r Ifanc, y DU.”

Mae carfan gyntaf Academi’r Ifanc y DU yn cynnwys aelodau o bob rhan o’r byd academaidd, sefydliadau elusennol a’r sector preifat, er mwyn ysgogi eu sgiliau, eu gwybodaeth, a’u profiad i ddod o hyd i atebion arloesol i’r heriau sy’n wynebu cymdeithasau nawr ac yn y dyfodol. Daw’r aelodau o bob rhan o’r DU ac Iwerddon, gyda 13% o’r Alban, 7% o Gymru, 5% o Ogledd Iwerddon a 75% o ardaloedd ar draws Lloegr. Mae 49% o’r garfan yn fenywod, a 34% o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. 

Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnwys ymchwilwyr, arloeswyr, clinigwyr, gweithwyr proffesiynol ac entrepreneuriaid sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’w maes, tra’n mynd gam ymhellach i gael effaith y tu allan i’w prif feysydd gwaith.

Bydd carfan gyntaf Academi’r Ifanc y DU yn cael y cyfle i lunio strategaeth a ffocws y sefydliad newydd hwn, gan fanteisio ar eu gwybodaeth a’u harbenigedd ar y cyd i lywio trafodaethau polisi lleol a byd-eang.

Bydd themâu ac amcanion strategol yn cael eu pennu gan aelodau ar sail meysydd sydd o bwys iddynt. Bydd trafodaethau ar eu blaenoriaethau allweddol yn cychwyn mewn digwyddiad sefydlu a gynhelir yn y Gymdeithas Frenhinol ym mis Ionawr 2023, a chaiff ei gwblhau yn ystod y flwyddyn i ddod. Mae aelodau eisoes wedi mynegi diddordeb mewn meysydd amrywiol o newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, iechyd y cyhoedd, addysg a sgiliau, a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Mae Academi’r Ifanc y DU wedi’i sefydlu fel cydweithrediad rhyngddisgyblaethol â’r Academi Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Academi Beirianneg Frenhinol, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a’r Gymdeithas Frenhinol. Mae’n ymuno â menter fyd-eang Academïau’r Ifanc. Academi’r Ifanc y DU yw’r 50fed academi i ymuno â symudiad Academi’r Ifanc.

Yn sgil yr alwad am aelodau i Academi’r Ifanc y DU ym mis Mehefin 2022, cafwyd dros 400 o ymgeiswyr o amrywiaeth o sectorau gan gynnwys y Gwyddorau Bywyd, y Gwyddorau Ffisegol, Peirianneg a Chyfrifiadurol, y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a Busnes, Gwasanaeth Cyhoeddus a Chyfathrebu. Dewiswyd yr aelodau gan banel o 65 o adolygwyr, gan gynnwys Pwyllgor Penodiadau.

Dechreuodd yr ymgeiswyr llwyddiannus eu swyddi yn swyddogol ar 1af o Ionawr 2023, ac mae aelodaeth yn para 5 mlynedd.