Academi Ifanc y DU yn Cyhoeddi Aelodau’r Grŵp Gweithredol Cyntaf

Heddiw, cyhoeddodd Academïau Cenedlaethol y DU ac Iwerddon y saith aelod newydd eu hethol ar gyfer Grŵp Gweithredol cyntaf Academi Ifanc y DU. Dyma nhw:

  • Jahangir Alom, Ymddiriedolaeth y GIG Barts Health
  • Michael Berthaume, Prifysgol South Bank Llundain
  • Denis Newman-Griffis, Prifysgol Sheffield
  • Linda Oyama, Prifysgol Queen’s Belfast
  • Edward Pyzer-Knapp, IBM
  • Catarina Vicente, Prifysgol Rhydychen
  • Amy Vincent, Prifysgol Newcastle

Mae Academi Ifanc y DU yn rhwydwaith o ymchwilwyr ac arbenigwyr gyrfa gynnar a gafodd ei sefydlu i helpu i fynd i’r afael â materion lleol a byd-eang a hyrwyddo newid go iawn. Gyda 67 o aelodau, cafodd carfan gyntaf Academi Ifanc y DU ei ffurfio fis Ionawr 2023 ac mae’n dwyn ynghyd ymchwilwyr, arloeswyr, clinigwyr, arbenigwyr ac entrepreneuriaid sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at eu maes.

Bydd y Grŵp Gweithredol cyntaf yn dîm arwain dros dro, ac ar waith am 18 mis. Byddant yn gweithio gydag aelodau, yn tynnu ar eu gwybodaeth a’u harbenigedd, i sefydlu sylfeini’r sefydliad newydd a llywio ei strategaeth. Mae hyn yn cynnwys sefydlu rhaglenni gwaith a mentrau gyda’r nod o fynd i’r afael â heriau byd-eang a chymdeithasol yn seiliedig ar feysydd sy’n bwysig iddyn nhw a llywio trafodaethau polisi.

Mae Academi Ifanc y DU wedi’i sefydlu fel cydweithrediad rhyngddisgyblaethol gyda’r Academi Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Peirianneg, yr Academi Wyddelig Frenhinol, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a’r Gymdeithas Frenhinol. Mae’n ymuno â’r fenter fyd-eang o Academïau Ifanc, ac Academi Ifanc y DU yw’r 50fed i ymuno â’r mudiad Academi Ifanc.

Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch saith aelod y Grŵp Gweithredol yma (yn ôl trefn y wyddor):

  1. Jahangir Alom, Meddyg Brys a Chyn-arweinydd Clinigol ar gyfer Rhaglen Brechu Staff y GIG, Ymddiriedolaeth GIG Barts Health, Llundain

Enillodd Jahangir Alom ei gymhwyster meddygol cynradd ym Mhrifysgol Southampton, lle sefydlodd raglen estyn allan i helpu pobl ifanc o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i ystyried gyrfa yn y GIG. Bu Jahangir yn Llywydd corff myfyrwyr meddygol a graddiodd gyda Gwobr y Deon am ei Gyfraniad Rhagorol i’r Gyfadran Feddygaeth. Mae ganddo radd MSc mewn Iechyd Cyhoeddus o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, lle bu’n ymchwilio i brofiad pobl Prydeinig-Bangladeshaidd yn ystod rhaglen frechu COVID-19. Mae ef hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglen yn Selfless UK, elusen ryngwladol sy’n darparu prosiectau iechyd byd-eang yn seiliedig ar dystiolaeth yng nghefn gwlad Bangladesh.

Fel Aelod o Gyngor y DU yng Nghymdeithas Feddygol Prydain, lobïodd Jahangir dros amodau gweithio gwell ar gyfer meddygon o gefndiroedd lleiafrifol ethnig. Ef oedd Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Rhaglen Brechu COVID-19 ar gyfer Staff yn NHS England, ac mae wedi ymddangos ar BBC Newsnight, QuestionTime, SkyNews a CNN i drafod anghydraddoldebau iechyd a gwahaniaethau COVID-19. Cafodd Wobr Seneddol y GIG (Llundain) am ei waith yn goresgyn anghydraddoldeb brechlynnau ac fe’i gosodwyd ymhlith y 100 uchaf o arweinwyr gofal iechyd mwyaf ysbrydoledig yn 2022 gan y Health Service Journal.

  • Michael Berthaume, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg a Dylunio Mecanyddol, Prifysgol South Bank Llundain

Ochr yn ochr â’i swydd academaidd, mae Michael Berthaume yn drysorydd sefydliad LHDTC+ Prifysgol South Bank Llundain ac yn gwasanaethu ar bwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Ysgol Beirianneg. Astudiodd peirianneg fecanyddol ac anthropoleg yn UMass, Amherst, cyn symud i Ewrop yn 2013 a chwblhau swyddi ymchwil ôl-ddoethurol ym meysydd biobeirianneg ac anthropoleg yn y Max Planck Institute of Evolutionary Anthropology a Choleg Imperial Llundain.

Creda Michael mai ymchwil traws-ddisgyblaethol yw’r dyfodol, sy’n darparu gweledigaeth holistig o broblemau a galluogi iddynt gael eu datrys mewn ffyrdd newydd. Mae’n gweithio i sefydlu’r maes annibynnol, traws-ddisgyblaethol o anthrobeirianneg, sy’n cyfuno anthropoleg a pheirianneg i fynd i’r afael â chwestiynau oddi mewn i’r ddwy ddisgyblaeth a’r tu hwnt iddynt. Tair prif elfen ei ymchwil yw biomecaneg esblygiadol dynol, mecaneg amrywiad biolegol dynol, a dyfeisiau meddygol (prostheteg) ar gyfer gwledydd ag incwm isel neu ganolig.

  • Denis Newman-Griffis, Darlithydd mewn Gwyddor Data, Prifysgol Sheffield

Mae Denis Newman-Griffis (nhw/hwythau) yn wyddonydd data trawsddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial, anabledd a dyluniad cyfrifol. Mae eu hymchwil yn ymgorffori persbectifau o ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol, astudiaethau data critigol a gwybodeg iechyd i ddeall sut ellir dylunio a rheoli systemau deallusrwydd artiffisial yn foesol i wella cydraddoldeb iechyd pob poblogaeth.

Mae Denis wedi datblygu rhai o’r dulliau prosesu iaith naturiol cyntaf ar gyfer dadansoddi gwybodaeth ynghylch profiadau bywyd pobl anabl ac mae’n arloesi dulliau ar gyfer archwilio proses ddylunio deallusrwydd artiffisial o bersbectif anabledd hollbwysig. Maent yn gweithio i ddatblygu arferion gorau ar gyfer dylunio deallusrwydd artiffisial cyfrifol a datblygu’r gymuned ryngwladol mewn perthynas â gwybodeg anabledd.

Mae Denis yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Data yn Ysgol Wybodaeth Prifysgol Sheffield. Maen nhw’n meddu ar PhD o Brifysgol Talaith Ohio a chwblhasant gymrodoriaeth ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Pittsburgh. Dyfarnwyd Gwobr Traethawd Ymchwil Doethurol AMIA iddynt yn 2021.

  • Linda Oyama, Darlithydd Microbiomeg, Ymwrthedd Gwrthfeicrobaidd ac Iechyd Cyfunol, Prifysgol Queen’s Belfast

Mae Linda Oyama yn ficrobiolegydd a darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol a’r Sefydliad er Diogelwch Bwyd Byd-eang, Prifysgol Queen’s Belfast, ac mae’n meddu ar radd Dosbarth Cyntaf mewn Microbioleg a PhD mewn Gwyddorau Biolegol.

Mae diddordebau ymchwil Linda yn ymwneud â deall ymwrthedd gwrthfeicrobaidd mewn microbiomau o bersbectif Iechyd Cyfunol drwy wyliadwriaeth ac astudiaethau epidemiolegol gan ddefnyddio dulliau meta-omeg. Ei nod yw goresgyn ymwrthedd gwrthfeicrobaidd drwy ddarganfod a datblygu opsiynau trin newydd ar gyfer amrywiol heintiau clinigol a milfeddygol sydd ag ymwrthiant i sawl cyffur.

Mae Linda hefyd yn fam brysur i dair o ferched caredig, hyfryd a deallus ac yn frwd dros bopeth yn ymwneud â natur a cherddoriaeth.

  • Edward Pyzer-Knapp, Arweinydd Byd-eang, Efelychu Wedi’i Gyfoethogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial, IBM, Swydd Gaer

Edward Pyzer-Knapp yw arweinydd yr IBM ar gyfer Efelychu Wedi’i Gyfoethogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial ac mae’n darparu arweinyddiaeth dechnegol ar gyfer cydlifiad deallusrwydd artiffisial, HPC a chyfrifiadura Cwontwm i gyflymu’r dull gwyddonol. Mae ganddo ddiddordeb mewn defnyddio technolegau pwerus newydd i helpu i ateb rhai o heriau mwyaf ein cyfnod, yn enwedig drwy lens modelu ac ysgogi. Enillodd ei PhD o Brifysgol Caergrawnt, ac yna symudodd i Brifysgol Harvard, cyn gadael i helpu i lansio Lab Ymchwil IBM yn y DU yn 2015. Mae ganddo Swydd Athro ym Mhrifysgol Lerpwl, a swydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Edward yw Prif Olygydd y cylchgrawn gan Wiley, Applied AI Letters, ac mae wedi awdurdodi dros 60 o bapurau a gweithdrefnau cynadleddau, ffeilio sawl breintlythyr, ac wedi awdurdodi gwerslyfr ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwyddor gorfforol, a gyhoeddwyd gan Wiley yn 2021.

  • Catarina Vicente, Rheolwr Strategaeth Gwyddoniaeth a Phrosiectau / Cymrawd Swyddogol mewn Ymgysylltiad Cyhoeddus ag Ymchwil, Prifysgol Rhydychen

A hithau o gefndir gwyddonol, mae gyrfa broffesiynol Catarina Vicente wedi’i seilio ar y gred na all gwyddoniaeth fod yn gwbl lwyddiannus na grymus heb gyfathrebu effeithiol, a hynny rhwng gwyddonwyr a’r gymdeithas ehangach. Ar ôl ennill PhD mewn bioleg celloedd, bu’n gweithio mewn swyddi yn y maes cyfathrebu rhyng-wyddonol, yn canolbwyntio’n ddiweddarach ar ymgysylltiad cyhoeddus a chyfathrebu gwyddonol mewn cyd-destun academaidd.

Yn ei swydd gyfredol fel Rheolwr Strategaeth Gwyddoniaeth a Phrosiectau yn Ysgol Patholeg Dunn (Prifysgol Rhydychen), mae gan Catarina gyfle unigryw i ddylanwadu ar ymchwil academaidd yn uniongyrchol, gan gyfalafu ar ei sgiliau cyfathrebu. Ochr yn ochr â hyn, mae Catarina yn Gymrawd Swyddogol mewn Ymgysylltiad Cyhoeddus gydag Ymchwil yng Ngholeg Reuben, lle mae’n datblygu prosiectau ymgysylltiad cyhoeddus o bersbectif ysgolheigaidd a rhyngddisgyblaethol unigryw.

  • Amy Vincent, Syr Henry Wellcome, Cymrawd Ôl-ddoethurol (Ymchwil Mitocondriaidd), Prifysgol Newcastle

Mae Amy Vincent yn Gymrawd Syr Henry Wellcome ym Mhrifysgol Newcastle yn y Wellcome Centre for Mitochondrial Research (WCMR) a’r John Walton Muscular Dystrophy Research Centre. Cwblhaodd ei PhD yn 2017 ac fe’i dyfarnwyd â Chymrodoriaeth yn 2019, pan gafodd ei gwahodd i fod yn brif ymchwilydd yn y WCMR. Mitocondria yw batris ein celloedd sy’n creu egni i’r celloedd weithio. Mae grŵp Amy yn gweithio ar ddeall achos a datblygiad afiechyd prin o’r enw afiechyd mitocondriaidd, ac effaith camweithrediad mitocondriaidd ar gelloedd cyhyrau.

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd a chleifion yn hollbwysig i Amy, sy’n mynychu diwrnodau i’r teulu a gynhelir gan y Lily Foundation a Muscular Dystrophy UK. Mae Amy yn gweithredu ar sawl pwyllgor sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a datblygiad gyrfa ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar. A hithau’n ferch mewn STEM, mae Amy hefyd yn aelod o’r gymuned LHDTC+ mewn STEM.