Academi Ifanc y DU yn penodi 42 o aelodau datblygol newydd

Heddiw, cafodd 42 o arweinwyr datblygol o bob cwr o’r DU eu henwi fel aelodau diweddaraf Academi Ifanc y DU – rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â heriau byd-eang a lleol dybryd a hyrwyddo newid parhaol.
Daw’r aelodau diweddaraf o amrywiaeth eang o sectorau, gyda chefndiroedd mewn gwyddor gwleidyddiaeth, peirianneg, llywodraeth, cyfathrebu a’r diwydiannau creadigol a pherfformio, ymhlith eraill. Bu i bob aelod ddangos potensial eithriadol o addawol yn eu maes yn ogystal â dangos ymrwymiad cryf i gymhwyso eu harbenigedd y tu hwnt i’w prif feysydd gwaith, gyda chymhelliant i ymgysylltu mewn ffyrdd sy’n croesi ffiniau disgyblaethol traddodiadol ac sy’n cyd-fynd â nodau Academi Ifanc y DU.
Fel aelodau o Academi Ifanc y DU, bydd cyfle iddynt weithredu ar faterion lleol a byd-eang. Drwy brosiectau rhyngddisgyblaethol a gweithio ar draws sectorau, byddant yn pontio bylchau, yn annog arloesedd, ac yn datblygu’r syniadau sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau tyngedfennol – y cyfan wrth ddatblygu eu gyrfaoedd proffesiynol a chyfrannu at rwydwaith byd-eang o Academïau Ifanc sy’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Gan siarad ar ran Pwyllgor Dethol Aelodaeth Academi Ifanc y DU, dywedodd Alistair McConnell, Athro Cynorthwyol mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Heriot-Watt:“Ni ddaw’r datrysiadau i heriau mwyaf dybryd y byd o faes neu bersbectif unigol. Mae angen i ni ddwyn ynghyd arbenigeddau a dealltwriaethau o amrywiaeth o ddisgyblaethau.”
“Heddiw, mae’n bleser gennym gael croesawu ein haelodau diweddaraf, y bydd eu cefndiroedd a’u harbenigeddau amrywiol yn dod â safbwyntiau newydd i Academi Ifanc y DU. Bydd cyfle i’r aelodau hyn herio ffiniau, creu cysylltiadau newydd, a chydweithio er mwyn datblygu datrysiadau arloesol i’r heriau pwysicaf.”
“Wrth i ni ddechrau ein trydedd flwyddyn fel sefydliad, bydd modd i’r aelodau newydd gyfrannu o’r cychwyn cyntaf. Drwy gymryd rhan mewn prosiectau a rhaglenni gwaith arloesol, neu drwy sicrhau bod lleisiau gyrfa gynnar yn rhan o drafodaethau allweddol lleol a byd-eang, byddant mewn sefyllfa i wneud cyfraniad ystyrlon.”
Am y tro cyntaf, cafodd grŵp dethol o arweinwyr datblygol eu dewis i fod yn aelodau o Academi Ifanc y DU drwy lwybr pwrpasol mewn cydweithrediad â’r Council of At-Risk Academics (Cara). Gwahoddwyd academyddion agored i risg o rwydwaith Cara i wneud cais am aelodaeth fel rhan o brosiect Academi Ifanc y DU sy’n cael ei arwain gan aelodau ac sy’n canolbwyntio ar gefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar agored i risg ledled y DU.
Yr wythnos nesaf, bydd aelodau diweddaraf Academi Ifanc y DU yn dod ynghyd ar gyfer eu Diwrnod Cynefino, lle byddant yn dysgu am weithgareddau a rhaglenni Academi Ifanc y DU. Dilynir hyn gan drydydd Cyfarfod blynyddol yr Aelodaeth Lawn, gan nodi’r cyfle cyntaf i’r grŵp newydd hwn gysylltu â’r aelodaeth ehangach. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau eu rolau ar 1 Ebrill 2025, ac mae’r aelodaeth yn rhedeg am bum mlynedd.