Deall Proses Etholiadol y Gymrodoriaeth
3 Mehefin, 2021
Rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ym mis Mehefin i ddarparu gwybodaeth am y broses o ethol Cymrodyr i’r Gymdeithas:
- Dydd Mawrth 15 Mehefin, 3.00pm: Cyfarfod zoom agored ar gyfer unrhyw enwebeion posibl ar gyfer Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sydd â diddordeb yn y broses o ddod yn Gymrawd.
- Dydd Mawrth 22 Mehefin, 3.00pm: Cyfarfod zoom agored ar gyfer unrhyw enwebeion benywaidd posibl ar gyfer Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru sydd â diddordeb yn y broses o ddod yn Gymrawd.
Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan staff y Gymdeithas a Chymrodyr presennol.