Llongyfarchiadau i Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog newydd Cymru
Rydym yn llongyfarch Rhun ap Iorwerth ar ddod yn Brif Weinidog Cymru. Mae’r ffaith iddo arwain Plaid Cymru at lwyddiant diweddar yn etholiadau’r Senedd yn nodi moment arwyddocaol yn nhaith wleidyddol Cymru.
Rydym wedi mwynhau perthynas weithio gadarnhaol â chyn Brif Weinidogion yn y gorffennol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Mr ap Iorwerth a’i dîm o weinidogion.
Croesawn ymrwymiad manifesto ei blaid i ‘gomisiynu adolygiad annibynnol a chynhwysfawr o’r sector addysg uwch cyfan a sut y caiff ei ariannu yng Nghymru’. Rydym yn barod i chwarae ein rhan lawn yn yr adolygiad hwnnw, yn union fel y gwnaethom gyda’n hymateb diweddar i alwad Llywodraeth Cymru am gynigion ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, a wnaeth bedwar prif argymhelliad i:
- flaenoriaethu’r system ymchwil ac arloesi hanfodol;
- buddsoddi mewn ymchwil, ac adolygu’r model ariannu;
- gwneud defnydd o Academi Genedlaethol Cymru;
- penodi Gweinidog dros Ymchwil ac Arloesi.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gefnogi gwaith ehangach y llywodraeth newydd, gan ysgogi gwelliannau o ran iechyd, yr amgylchedd, diwylliant, a rhagor, a chynnig cyngor arbenigol gan ein Cymrodoriaeth o ddoniau blaenllaw Cymru.