Ymateb Cymdeithas Ddysgedig Cymru i Adolygiad Diamond o gyllido Addysg Uwch yng Nghymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n croesawu cyhoeddi’r Adolygiad annibynnol o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr a hoffai ddiolch i Syr Ian Diamond a’i gydweithwyr am eu hymdrechion a’u hymrwymiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Gan gydnabod nad oedd y model grant ffioedd cyfredol oedd yn cefnogi myfyrwyr yn hanu o Gymru yn gynaliadwy, cyflwynodd y Gymdeithas adroddiad a thystiolaeth fanwl i Banel Diamond ym mis Ionawr 2015 yn amlygu pwysigrwydd cymorth digonol i fyfyrwyr ac ymdrin hefyd â thanariannu hanesyddol sector AU Cymru. Heb gymorth cynaliadwy, byddai buddsoddiad yn y sector AU yng Nghymru’n syrthio ymhellach y tu ôl i Loegr gyda pherygl gwirioneddol y byddai astudio yng Nghymru’n cael ei weld yn opsiwn llai deniadol i raddedigion ac ôl-raddedigion o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU.

I sicrhau cyfiawnder, cynigiodd y Gymdeithas Ddysgedig y dylid dileu cymorth grant ffioedd Llywodraeth Cymru ac y dylai myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ysgwyddo’r baich ffioedd yn llawn, lle bynnag y dymunant astudio, ond gyda chymorth prawf modd ar gael i fyfyrwyr llawn amser a rhan amser â’r angen mwyaf.

Mae Adolygiad Diamond yn dod â nifer o agweddau gwahanol o addysg uwch at ei gilydd i greu un system gyffredinol er budd Cymru, yn y disgwyliad y caiff yr ystod gyflawn o argymhellion eu rhoi ar waith yn llawn. Roedd cyflwyniad y Gymdeithas Ddysgedig yn dadlau ei bod yn hanfodol bwysig adfer cyllid a gâi ei ryddhau drwy newid y polisi o ‘grant ffioedd i bawb’ yn ôl i CCAUC, er mwyn gallu cyfeirio cefnogaeth at y prifysgolion yn uniongyrchol i helpu i fynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol gan gynnwys cefnogi ymchwil o ansawdd uchel, darpariaeth ran amser, diogelu pynciau strategol bwysig gan gynnwys darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac astudiaethau’n ymwneud â Chymru, a phynciau drud fel meddygaeth er mwyn sicrhau bod prifysgolion Cymru’n gallu parhau i fod yn gystadleuol.

Gyda hyn mewn golwg, croesawodd y Gymdeithas ymrwymiad yr Adolygiad y ‘Dylai sefydliadau sy’n darparu addysg uwch gael eu cyllido ar lefel sy’n eu galluogi i wneud gwaith addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf, yn unol â’u cryfderau, eu harbenigeddau a’u cenadaethau penodol’. Bydd rhoi ystod gyflawn argymhellion Adolygiad Diamond ar waith felly’n hanfodol, er budd myfyrwyr y dyfodol ac i annog eu mynediad at addysg uwch, ond hefyd er mwyn sicrhau bod gan Gymru sector addysg uwch cynaliadwy llwyddiannus a chystadleuol.

Cydnabod Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Ymhellach mae’r Adolygiad yn argymell ystod o strategaethau cyllido sy’n cefnogi ymchwil, yn annog cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr sydd wedi’u hyfforddi yng Nghymru, a chynyddu cyfnewid gwybodaeth o ymchwil masnachol a chymdeithasol. Mewn datblygiad sydd i’w groesawu tynnodd yr Adolygiad sylw at rôl gyfredol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ai rôl yn y dyfodol:

Yn benodol, ar dudalennau 56-57 nododd yr Adolygiad “Mae’r Gymdeithas yn ychwanegiad i’w groesawu i dirwedd ddeallusol Cymru, yn enwedig oherwydd ei chymrodoriaeth amlddisgyblaethol ac amlsector” gan bwysleisio bod rhaid i economïau llwyddiannus sy’n seiliedig ar wybodaeth “fanteisio ar yr aelodau mwyaf dawnus o’u cymdeithas i roi cyngor; herio a thrafod, yn debyg i gymdeithasau dysgedig fel y Royal Society of Edinburgh neu’r Royal Society of London”.

Wrth sôn am rôl y Gymdeithas Ddysgedig, aeth yr Adolygiad yn ei flaen:

Credwn fod ganddi’r potensial i ddatblygu i fod yn adnodd gwirioneddol ar gyfer a) gwella dealltwriaeth y cyhoedd ynglŷn â gwyddoniaeth ac ysgogi a chyfrannu at drafodaethau ac ymgysylltiad y cyhoedd mewn perthynas â materion cyfoes allweddol; b) cyfrannu at ddatblygiad ‘pŵer meddal’ Cymru drwy hyrwyddo rhwydweithiau rhyngwladol o ddiddordeb yn sefydliadau, diwylliant a gwerthoedd Cymru; c) ysbrydoli a chefnogi doniau ifanc mwyaf disglair Cymru yn y sectorau ymchwil, busnes a chyhoeddus, er mwyn creu gwerth ar gyfer yr economi a’r gymdeithas; ch) darparu cyngor annibynnol a sganio’r gorwel ar draws meysydd o bob math drwy sicrhau bod gan y bobl sy’n llunio a dylanwadu ar bolisi yng Nghymru fynediad i’r arbenigedd cenedlaethol ac yn wir, byd-eang, gorau; d) sicrhau cydnabyddiaeth well o ansawdd yr ysgolheictod sy’n bodoli yng Nghymru ac sy’n gysylltiedig â Chymru; ac dd) hyrwyddo buddiannau ac enw da Cymru ar y llwyfan rhyngwladol..

Er mwyn i’r Gymdeithas gyflawni ar ei chylch gwaith a’i swyddogaethau’n effeithiol, mae’r Adolygiad yn argymell y dylai’r Gymdeithas Ddysgedig gael “y math o gyllid craidd a welir mewn awdurdodaethau eraill”. Ar ôl ‘edrych ar drefniadau cyllido mewn rhannau eraill o’r DU” argymhellodd yr Adolygiad yn ffurfiol “y dylai’r Gymdeithas gael cyllid o £1 miliwn bob blwyddyn, drwy law CCAUC yn erbyn cyfres o amcanion y mae’r Gymdeithas a CCAUC wedi cytuno arnynt, gan ystyried heriau a blaenoriaethau pwysig Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol.”

Gan gadw’r angen i barhau’n annibynnol mewn cof, mae’r Gymdeithas ar hyn o bryd yn derbyn y mwyafrif o’i chyllid ar gyfer costau rhedeg craidd ac amrywiaeth eang o weithgareddau gweithrediadol ar ffurf grantiau anghyfyngedig blynyddol gan bob un o brifysgolion Cymru a ffioedd Cymrodoriaeth.

Mae’r gefnogaeth newydd a argymhellir gan Adolygiad Diamond i’w groesawu’n benodol gan fod y dibenion a argymhellir yn cyd-fynd yn dda gydag amcanion a chenhadaeth y Gymdeithas. Byddai’r cyllid ychwanegol yn gyllid cyfyngedig gyda gofyn i’r Gymdeithas gyflenwi amcanion a gytunir gyda CCAUC sy’n helpu i hyrwyddo a datblygu rhagoriaeth ymchwil ac ysgolheictod yng Nghymru. Mae cynlluniau ‘grant cymorth’ tebyg ar waith yn yr Alban ar gyfer y Royal Society of Edinburgh (RSE).

Pwysigrwydd tyfu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr Ôl-raddedig

Tynnodd yr Adolygiad sylw hefyd at bwysigrwydd datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr (t56/57) gan gynnig cymorth cyffelyb i fyfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig, gyda ffioedd cyrsiau ôl-raddedig mewn prifysgolion yng Nghymru’n cael eu ‘capio’n ysgafn’ ar £9,000.

Yn wyneb y mas critigol annigonol o ymchwilwyr yng Nghymru ym meysydd STEMM, mae’r Adolygiad yn cynnig ‘y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu rhaglen uchelgeisiol i addysgu cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr yng Nghymru.’

Yn benodol, mae’r Adolygiad yn argymell sefydlu Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil Ôl-raddedig gyda 150 o ysgoloriaethau y flwyddyn a dylid “cyllido’r ysgoloriaethau hyn mewn partneriaeth gyfartal driphlyg rhwng Llywodraeth Cymru, y Brifysgol lle bydd y myfyriwr ymchwil wedi’i leoli, a chyllidwr arall naill ai o’r sector preifat, cyhoeddus neu’r trydydd sector”. Byddai’r ysgoloriaethau “ar gael i astudio mewn unrhyw faes ymchwil, cyhyd â bod y bartneriaeth driphlyg a ddisgrifir uchod yn bodoli”. Mae’r Adolygiad yn cynnig ‘y gellid gweinyddu’r ysgoloriaethau hyn yn flynyddol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn amodol ar gytuno ar y cynnig mewn perthynas â’r Gymdeithas yn ddiweddarach yn yr adran hon”.

Wrth sôn am yr Adolygiad dywedodd Llywydd y Gymdeithas Ddysgedig, Syr Emyr Jones Parry:

‘Mae Adolygiad Diamond yn gydbwysedd gofalus rhwng annog myfyrwyr i fynd i addysg uwch a sicrhau cynaladwyedd prifysgolion Cymru. Rwyf i’n gobeithio y bydd ei weithrediad hefyd yn cyflwyno llawer mwy o gymorth ariannol mawr ei angen i’n sefydliadau er mwyn iddynt allu parhau i gystadlu’n llwyddiannus mewn marchnad fyd-eang.’

Wrth wneud sylwadau ar yr Adolygiad, dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Ddysgedig, Yr Athro Peter Halligan:

Mae hwn yn gadarnhad sylweddol a chalonogol i’r rôl sydd gan y Gymdeithas Ddysgedig a’r rôl y gall ei chwarae yn helpu i dyfu a hyrwyddo rhaglen ymchwil uchelgeisiol Cymru.”

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn llawn (ceir dyfyniadau llawn ar argymhellion y Gymdeithas Ddysgedig oar dudalennau 57, 63,64, 68, 80 a 84)

Cyflwyniadau’r Gymdeithas Ddysgedig i Adolygiad Diamond ac Ymgynghoriad ar astudio ôl-raddedig:

ultation on support for postgraduate study in May 2016

Photo from Aberdeen University