Ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru yn cael hwb ariannol sylweddol
Mae Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru, a lansiwyd ym mis Hydref, yn nodi moment arwyddocaol ar gyfer ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o fod yn un o’r partneriaid sy’n ymwneud â’r fenter bwysig a chydweithredol hon.
Bydd YGGCC yn buddsoddi £40 miliwn mewn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ar draws Cymru dros y pum mlynedd nesaf. Bydd hyn yn cefnogi 360 o fyfyrwyr doethurol newydd wedi’u hariannu’n llawn ar draws 15 disgyblaeth y gwyddorau cymdeithasol yn y prifysgolion canlynol: Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Abertawe, Swydd Gaerloyw, Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Mae ein hymwneud â YGGCC eisoes wedi ei hen sefydlu, a mynychodd ein tîm datblygu ymchwilwyr y digwyddiad lansio a’r diwrnod cynefino dilynol, lle y gwnaethom gwrdd ag ymchwilwyr doethurol presennol a newydd o bob rhan o Gymru.
Roedd hyn yn dilyn ymlaen o’r gweithdy ar-lein blynyddol cyntaf a gynhaliwyd gennym, cyn y lansiad ffurfiol, ar gyfer goruchwylwyr PhD sy’n ymwneud â goruchwylio myfyrwyr YGGCC.
Mae nifer o’n Cymrodyr hefyd yn chwarae rhan bwysig yn YGGCC. Siaradodd yr Athro Claire Gorrara FLSW, Deon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, yn y lansiad, gan esbonio sut y disgrifiwyd y cais i sicrhau cyllid ar gyfer YGGCC gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) fel un ‘rhagorol, gweledigaethol a rhyfeddol.’ Roedd y model o gydweithredu, meddai, yn cynnwys cysylltiadau pwysig rhwng y llywodraeth, cymdeithas sifil ac Addysg Uwch. Yn ogystal, mae model YGGCC wedi bod yn ysbrydoliaeth i gymunedau disgyblaethol eraill, fel Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (WAHA), yn ei chais i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer rhaglen ysgoloriaeth ymchwil Ddoethurol Cymru gyfan.
Cyflwynodd yr Athro Emmanuel Ogbonna FLSW y brif araith ar y diwrnod cynefino, yn dilyn y digwyddiad lansio, tra gorffennodd yr Athro John Harrington FLSW ei gylch fel Cyfarwyddwr YGGCC ddiwedd fis Hydref, a chael ei olynu yn y rôl gan yr Athro William Housley FLSW.