2018 Symposiwm Rhyngwladol

Roeddem ni’n falch iawn i gynnal trydydd Symposiwm Rhyngwladol Cymdeithas Ddysgedig Cymru yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt rhwng 11 a 13 Medi. Gan ganolbwyntio ar Foeseg Llewyrch Cynaliadwy i Bawb, daeth 57 o gyfranogwyr i’r digwyddiad, gan gynnwys 11 o Gymrodyr a gwesteion rhyngwladol o Dde Affrica, Awstralia, yr Unol Daleithiau, Rwsia a Sweden. Yn ogystal ag academyddion yn gweithio ar draws sawl disgyblaeth, denodd y symposiwm gynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

 

Dros saith sesiwn panel, bu cyfranogwyr yn archwilio materion a phenblethau moesegol sydd angen eu trin fel sail i ddyfodol cynaliadwy a llewyrchus i bawb, ar lefelau byd-eang a rhyng-genedliadol. Cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ei hystyried fel enghraifft ganolog o ddeddfwriaeth berthnasol, a chafwyd cydbwysedd rhwng cyfraniadau gan nifer o banelwyr blaenllaw a thrafodaethau bywiog gyda’r gynulleidfa drwyddi draw.

Cafodd cyfranogwyr y cyfle hefyd i grwydro Caergrawnt a chlywed gan ddau brif siaradwr rhagorol – yr Athro Chris Landberg o Brifysgol Johannesburg, a’r Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Caiff adroddiad llawn o’r gynhadledd – gan gynnwys argymhellion ar gyfer gweithredu ac ymchwilio pellach – ei gyhoeddi maes o law.

Roedd y canlynol ymhlith sylwadau’r cyfranogwyr:

“Roedd y trafodaethau’n graff ac yn cyfoethogi gan ddangos sut i fframio, deall a gwirioneddol ailfeddwl datblygu cynaliadwy a llewyrch.”

“Roedd y cyswllt rhwng y siaradwyr a’r trafodwyr yn cynnig cydbwysedd eang a chyfle i rannu dealltwriaeth a syniadau.”

“Roeddwn i’n arbennig o hoff o ehangder y profiad o gynifer o rannau o’r byd. Cefais ymdeimlad o Gymru fel ‘grym cysylltiol’”.

Yr Academi Brydeinig oedd ein partneriaid arweiniol a’n noddwyr ar gyfer y Symposiwm. Hoffem hefyd ddiolch i Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Johannesburg a Sefydliad Uwchefrydiau Johannesburg, Prifysgol Sydney a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am eu cefnogaeth ariannol hael.