“Canllaw i ddechreuwyr” wedi’i gyhoeddi i helpu ysgolheigion mewn perygl fynd i’r afael â’r byd academaidd yn y DU
Adnodd cynhwysfawr newydd sy’n lleihau rhwystrau i ysgolheigion sy’n ailadeiladu eu gyrfaoedd a’u rhwydweithiau proffesiynol mewn system academaidd newydd.
Mae Academi Ifanc y DU wedi lansio canllawiau newydd ar gyfer academyddion sydd wedi cyrraedd y DU yn ddiweddar i’w helpu i barhau gyda’u gyrfaoedd.
Mae nifer o ysgolheigion sydd mewn perygl yn cyrraedd y DU gydag arbenigedd academaidd sylweddol ond maent yn gyfyngedig o ran pa mor gyfarwydd ydynt ynghylch sut mae’r byd academaidd yn y DU yn gweithio. Gall dadleoli gorfodol amharu ar hunaniaeth broffesiynol, rhwydweithiau a gwybodaeth sefydliadol, gan ei gwneud hi’n fwy anodd mynd i’r afael â system addysg uwch anghyfarwydd ac ailadeiladu gyrfa.
Heddiw, mae tîm prosiect Ysgolheigion a Gweithwyr Proffesiynol Mewn Perygl Academi Ifanc y DU wedi cyhoeddi’r ‘Beginner’s guide to UK academia’ hygyrch er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch yma, gan gefnogi academyddion i ddeall sut mae’r byd academaidd yn y DU yn gweithio, sut allant fod yn rhan ohono, a ble i ddod o hyd i ragor o gefnogaeth, a’r cyfan wrth iddynt geisio ymgartrefu mewn gwlad newydd.
Yn bwynt mynediad hygyrch i system gymhleth ac annelwig yn aml, mae’n cyfuno canllawiau cyflwyniadol gyda chyfeirio at adnoddau arbenigol.
Bydd y canllaw hwn yn cynnwys pynciau’n amrywio o strwythurau prifysgol, llwybrau gyrfa academaidd, a theitlau swyddi i brosesau recriwtio, ariannu ymchwil a’r prif sefydliadau o fewn tirwedd addysg uwch y DU.
Mae’r adnodd hwn ar gael ochr yn ochr â chanllawiau tebyg gan gyd-academyddion ifanc cenedlaethol, gan gynnwysA Beginner’s Guide to Dutch Academia, a A Beginner’s Guide to Swedish Academia, wnaeth ysbrydoli datblygu’r canllaw hwn yn uniongyrchol.
Mae’r ffisegydd niwclear Hasan Maridi yn aelod o Academi Ifanc y DU, ac yn Gyn Gymrawd Ymchwil Cyngor Academyddion Mewn Perygl (Cara) ym Mhrifysgol Manceinion. Dywedodd:
“Hyd yn oed i rywun gyda phrofiad academaidd sylweddol, gall mynd i mewn i’r system yn y DU fod yn heriol oherwydd bod nifer o’i strwythurau, terminoleg a disgwyliadau, yn anghyfarwydd. Mae llawer o’r wybodaeth yma’n aml yn cael ei rhagdybio yn hytrach na’i hegluro’n fanwl.
“Gall cael gwybodaeth glir mewn un lle hygyrch leihau ansicrwydd, helpu pobl i ddeall y cyfleoedd a disgwyliadau o fewn y byd academaidd y DU, a rhoi mwy o hyder iddynt i ofyn y cwestiynau cywir a dod o hyd i gefnogaeth briodol ar adeg o’u bywyd sydd eisoes yn heriol.”
Dywedodd Anthony Kevins, Uwch-ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Loughborough ac arweinydd datblygu adnoddau:
“Dyw arbenigedd a gallu ddim yn diflannu pan mae rhywun yn cael ei ddadleoli’n orfodol o’i wlad ei hun. Ac eto, rydym yn gweld y gall hynny fod yn wir o ran rhwydweithiau proffesiynol, gwybodaeth sefydliadol, momentwm o ran gyrfa, a chyfalaf diwylliannol.
“I weithwyr proffesiynol gyrfa gynnar – sydd yn aml yn parhau i fod yn y broses o sefydlu eu hunaniaeth broffesiynol – gall delio gyda dadleoli fod yn arbennig o heriol.
“Mae Academi Ifanc y DU yn freintiedig i gael mynediad at amrywiaeth eang o arbenigwyr a safbwyntiau ar hyd a lled y DU, gan gynnwys gan rai o gefndiroedd lle maent mewn perygl. Bu i nifer o’r safbwyntiau hynny helpu i greu’r adnodd hwn, a fydd gobeithio yn grymuso ysgolheigion sydd mewn perygl fel eu bod yn gallu delio gyda’n sefydliadau drwy wybodaeth.”
Mae Canllawiau Dechreuwyr i Fyd Academaidd y DU ar gael am ddim ar wefan Academi Ifanc y DU.
Mae Academi Ifanc y DU wedi’i hariannu gyda grant gan y Gymdeithas Frenhinol o’r Adran Fusnes, Arloesi, Gwyddoniaeth a Masnach.