Cyfrannu at Greu Cymru Lewyrchus – 6 July 2023

Cymru lewyrchus yw thema colocwiwm wyneb yn wyneb Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer ymchwilwyr gyrfa cynnar a gynhelir gan Prifysgol Abertawe yr haf hwn.

Rydym yn gwahodd cynigion am sgyrsiau fflach a phosteri ymchwil ar y thema gan Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar sydd yn gweithio ym mhrifysgolion Cymru.

Bydd y digwyddiad yn dod ag aelodau o Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru at ei gilydd, ynghyd â chydweithwyr o’r sectorau academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat, a’r trydydd sector. Bydd cyfle i rwydweithio, rhannu ymchwil a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa ymchwil lwyddiannus ym maes ymchwil.  

Mae cynigion ar gyfer y meysydd canlynol yn cael eu croesawu:  

  • Y newid i gymdeithas carbon isel;   
  • Creu sgiliau ar gyfer y dyfodol;  
  • Annog diwylliant o waith teilwng;   
  • Iechyd pobl Cymru;   
  • Diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus;  
  • Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel ac sydd â chysylltiadau da;   
  • Mwy o gydraddoldeb i alluogi pobl i gyflawni eu potensial.   
  • Gwydnwch ecolegol yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd 

Gwybodaeth am – Sgyrsiau Fflach 10 Munud

Dylech lenwi’r ffurflen hon, dim ots sut ydych chi eisiau cyfrannu at y digwyddiad.

Dywedodd Cathy Stroemer, Rheolwr Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru:  

“Mae ein rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar wedi gwneud enw iddo’i hun drwy hyrwyddo gwaith ymchwilwyr gyrfa cynnar Cymru, a chreu amgylchedd cefnogol iddynt a darparu hyfforddiant sy’n helpu academyddion ar ddechrau eu gyrfaoedd.  

“Mae’r colocwiwm yma’n adeiladu ar waith y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd yn ddigwyddiad bywiog, wyneb yn wyneb a fydd yn ysgogi’r meddwl, yn gynhyrchiol ac yn sicr o greu cysylltiadau rhwng ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau a sefydliadau.  

“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gweithio’n galed i ddangos sut y gall ymchwil o Gymru gael effaith uniongyrchol ar yr heriau niferus sy’n ein hwynebu yma ac yn fyd-eang.  

“Rydym yn gobeithio y bydd llawer o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yn cael eu hysbrydoli i gyflwyno eu syniadau ar gyfer y colocwiwm, lle gallant gyflwyno eu hymchwil i gynulleidfa eang ac amrywiol.”