Academi Heddwch yn Chwilio am Siaradwyr ar gyfer Cyfres Gweminar

Mae Academi Heddwch yn chwilio am siaradwyr academaidd i gefnogi cyflwyno cyfres gweminar yn y dyfodol ar oblygiadau’r rhyfel yn yr Wcráin ar gyfer cyflenwad ynni, diogelwch a chysylltiadau rhyngwladol. 

  • Sut mae’r rhyfel yn Wcráin wedi newid ein hagweddau tuag at bŵer niwclear a/ neu’r angen am ddiarfogiad niwclear?
  • Sut all Cymru symud at fod yn hunangynhaliol yn gynt o ran bwyd ac ynni yng ngoleuni’r ansefydlogrwydd cynyddol mewn cadwyni cyflenwi byd-eang?
  • Sut all mecanweithiau dadfuddsoddi sy’n cael eu defnyddio i roi sancsiynau ariannol ar waith yn erbyn cwmnïau/ oligarchiaid Rwsiaidd, gael eu defnyddio i ddadfuddsoddi’n gynt rhag diwydiannau niweidiol fel arfau, tanwyddau ffosil a thybaco?
  • Sut caiff rhyfel ei gynnal mewn seiberofod, a sut mae arbenigedd Cymreig mewn seiberddiogelwch yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo heddwch?
  • Beth yw goblygiadau twyllwybodaeth, camwybodaeth a newyddion ffug ar feithrin heddwch / sut allwn ni feithrin heddwch/ rhannu’r gwir?

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch Hayley Richards.