Dr Luned Badder yn ennill Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae Dr Luned Badder o Brifysgol Caerdydd wedi ennill y Gystadleuaeth Traethawd Tri Munud eleni, a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Teitl ei chyflwyniad oedd ‘Hyfforddi feirysau i gludo cemotherapi i ganser y pancreas’.
Mae’r gystadleuaeth, a drefnir gan Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn herio ymchwilwyr i esbonio eu gwaith i gynulleidfa gyhoeddus yng Nghymru mewn llai na thri munud, gan ddefnyddio un sleid yn unig. Cymerodd chwech o Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ran eleni, gan gyflwyno i gynulleidfa fyw ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod, ddydd Iau, 6 Awst.
Y cystadleuwyr eleni oedd Emma Grigorian (Prifysgol Metropolitan Caerdydd), Evan Wall (Prifysgol Aberystwyth), Hanna Andersen (Prifysgol Caerdydd), Lowri Haf Puw (Prifysgol Abertawe), Luned Badder (Prifysgol Caerdydd), a Maisie Edwards (Prifysgol Abertawe).
Diolch i’n panel beirniad, y Fonesig Elan Closs Stephens, Dr Aled Eirug, a’r Athro Eleri Pryse, am roi o’u hamser a’u harbenigedd i gefnogi’r gystadleuaeth eleni.
Llongyfarchiadau i Dr Badder, ac i’r holl gystadleuwyr eleni, am ddangos dyfnder ac ansawdd yr ymchwil sy’n cael ei gynnal gan Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru.