Eisteddfod wych ar gyfer y Gymdeithas
Roedd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru bresenoldeb cryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Y Garreg Las, gyda Chymrodyr yn arwain darlithoedd a digwyddiadau drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys ein Darlith Flynyddol yn yr Eisteddfod a’r Gystadleuaeth Traethawd Tri Munud.
Enillodd yr Athro Emyr Lewis y Gadair enwog, am yr ail waith, am ei awdl ar y thema Llinell | Llinellau. Enillydd arall yn y maes llenyddol oedd Dr Rebecca Thomas, un o’n henillwyr medalau Dillwyn yn 2023, a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel ‘Ynys Gwales’.
Roedd y Cymrodyr yn cymryd rhan drwy’r wythnos, o’r Athro Fonesig Elan Closs Stephens, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn sgwrsio gyda’r Athro Mererid Hopwood FLSW am fywyd Waldo Williams, i Ddarlith Gwen John gyda Dr Ceridwen Lloyd-Morgan FLSW, ac ymlaen i Andrew Green FLSW a draddododd Ddarlith Goffa Ieuan Rees ar gelf a geiriau. Daeth y perfformiad cyntaf o ‘Angerdd a Gerdd’ i ben yn yr Eisteddfod yn ogystal, sef cyfansoddiad newydd gan yr Athro Paul Mealor FLSW wedi’i osod i eiriau gan yr Athro Menna Elfyn FLSW. Roedd yr Athro E. Wyn James FLSW hefyd yn amlwg gyda thair sgwrs wahanol ar unigolion enwog Cymraeg, gan gynnwys yr emynydd Ann Griffiths a’r ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth, Morgan John Rhys.
Bu i Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yr Athro Siwan Davies draddodi Darlith Flynyddol yr Eisteddfod y Gymdeithas Ddysgedig eleni, ‘Edrych yn ôl ac i’r dyfodol ar yr argyfwng hinsawdd’, ar ddydd Iau 6 Awst, gan dynnu ar ei harbenigedd fel daearegwr ffisegol er mwyn archwilio yr hyn y gall newid hinsawdd yn y gorffennol ddweud wrthym am yr argyfwng sy’n datblygu heddiw. Roedd yn wych gweld cynifer o Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ymysg y gynulleidfa’n ymgysylltu gyda’i sgwrs.
Llongyfarchiadau i’r Athro Davies, a dderbyniodd, yn dilyn cyhoeddiad diweddarach, Fedal Technoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, i gydnabod ei chyfraniad anhygoel i ymchwil gwyddonol, addysg a chyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Llongyfarchiadau yn ogystal i Dr Aled Eirug FSLW ac i Gyn Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro Hywel Thomas FLSW, am gael eu derbyn yn Dderwyddon er Anrhydedd o’r Orsedd yn yr Eisteddfod eleni. Traddodwyd y seremoni gan yr Athro Mererid Hopwood, sef ei digwyddiad olaf fel Archdderwydd.