Ail-ethol yr Athro Hywel Thomas yn Llywydd y Gymdeithas

Mae yr Athro Hywel Thomas CBE FREng FRS FLSW MAE wedi cael ei ethol yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru am ail dymor tair blynedd, yn dilyn pleidlais ymhlith Cymrodyr.

Daeth yr Athro Thomas yn Llywydd ym mis Mai 2020, yn fuan wedi i’r pandemig Covid anfon y byd i mewn i gyfnod clo, ac arweiniodd y Gymdeithas drwy’r cyfnod digyffelyb hwn. Er gwaethaf yr heriau, mae’r tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o dwf sylweddol i’r Gymdeithas, o ran sefydlu’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, penodi’r Prif Weithredwr newydd, Olivia Harrison, cynnydd sylweddol ym maes Amrywiaeth, Ecwiti a Chynhwysiant a chryfhau cysylltiadau gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, CCAUC a’r Academïau Celtaidd.

“Mae’n anrhydedd cael y cyfle i barhau yn y rôl,” meddai’r Athro Thomas. “Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn chwarae rhan fwy pwysig nag erioed ym mywyd dinesig Cymru. Mae’n dadlau’r achos dros yr ymchwil o ansawdd uchel sy’n dod o Gymru, ac yn helpu i greu’r amgylchedd gorau, lle gall ein hymchwilwyr, yn enwedig y rhai ar ddechrau eu gyrfaoedd, ffynnu.

“Hoffwn ddiolch i’r Cymrodyr sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi’r Gymdeithas mewn amrywiol ffyrdd, ac i’n tîm staff sydd wedi gweithio mor galed i wneud y Gymdeithas yn berthnasol ac yn llais dibynadwy.”

Daw’r Athro Thomas â chyfoeth o brofiad mewn addysg uwch, ymchwil ac arloesi i’r rôl.

Mae’n Athro Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yn Gyfarwyddwr sylfaen y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol yn y Brifysgol ac yn Athro UNESCO ar gyfer Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy. Mae’n Athro Ymchwil Nodedig ym Mhrifysgol Abertawe. Ef hefyd yw arweinydd FLEXIS, prosiect £24 miliwn ar gyfer ymchwil systemau ynni yng Nghymru.

Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS), Cymrawd yr Academi Peirianneg Frenhinol (FREng), ac yn Aelod o Academia Europaea, Academi Ewrop. Yn 2017 derbyniodd CBE am wasanaethau i ymchwil academaidd ac addysg uwch.

Yn 2021, cafodd ei ethol yn aelod tramor o Academi Gwyddorau Tsieina, yr anrhydedd uchaf a roddir gan lywodraeth Tsieina i wyddonydd tramor am gyfraniadau a chyflawniadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg.